Colled o £123,000 i'r Gweilch

Stadiwm Liberty Image copyright Huw Evans picture agency

Mae rhanbarth rygbi'r Gweilch wedi cofnodi colled o £123,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae'r tîm Pro12 o Abertawe wedi beio costau cyfreithiol annisgwyl a phroblemau gyda chystadlaethau.

Ond mae rhai'n dweud bod ffigyrau 2013-14 yn "arwyddocaol" o gofio amgylchiadau anodd rygbi rhanbarthol yng Nghymru.

Dywedodd y rhanbarth bod y ffigyrau'n addawol ar gyfer y tymor hir o'i gymharu â'i cholled o £1.86 miliwn y flwyddyn flaenorol.