Tywydd garw: Rhybudd i yrwyr

Trin ffyrdd
Image caption Gall hyd at 4cm o eira syrthio ar dir uchel

Mae disgwyl i dywydd garw, gan gynnwys eira, eirlaw a glaw, achosi problemau i deithwyr fore Sadwrn gyda'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd melyn "byddwch yn barod".

Mae'r heddlu wedi rhybuddio gyrrwyr i fod yn ofalus wrth deithio ar yr A470 ger Merthyr Tudful gan fod rhew yn gwneud gyrru yn beryglus.

Yn ôl y rhagolygon bydd y tywydd gaeafol yn dechrau gafael o 03:00, ac yn effeithio ar bob awdurdod lleol yng Nghymru heblaw Ynys Môn.

Fe all hyd at 4cm (1.5 modfedd) o eira syrthio ar y tir uchel, a bydd yna amodau gyrru anodd oherwydd rhew.

Mae'r rhybudd tywydd mewn grym tan hanner dydd.