Gwefan newydd i'r Cymmrodorion

Cymmrodorion Image copyright Cymmrodorion

Mae cymdeithas Gymreig hynaf Llundain wedi sicrhau bod ei hanes ar gof a chadw, wrth i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ddigideiddio ei harchifau ar gyfer gwefan newydd.

Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sefydlwyd gan Richard Morris (un o frodyr Morris o Fôn) yn Llundain yn 1751 yw'r Gymdeithas.

Yn y gorffennol, fe wnaeth y Gymdeithas gyfraniad i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol.

Mae cynnwys y wefan wedi cael ei chynllunio i fod yn "fynediad agored", sy'n golygu bod aelodau yn ogystal â rhai nad ydynt yn aelodau yn cael mynediad cyfartal i'r safle ac at ei chynnwys, ond dim ond aelodau sydd yn gallu gweld erthyglau yn llawn.

Ers ei sefydlu bu'r Gymdeithas yn trefnu sgyrsiau i drafod rhai o'r pynciau llosg oedd o bwys penodol i Gymru, ac mae'r sgyrsiau hyn yn parhau hyd heddiw.

Image copyright Cymmrodorion
Image caption Mae holl drafodion y gymdeithas yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrol flynyddol

Mae'r gymdeithas yn cyhoeddi Trafodion Blynyddol ar ffurf cyfnodolyn sy'n cynnwys sgyrsiau a draddodwyd i'r Gymdeithas fel rhan o'i rhaglen flynyddol o ddarlithoedd. Yn sgîl y wefan newydd, fe fydd y Trafodion ar gael yn ddigidol am y tro cyntaf.

Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy'n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg sef Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Image copyright Cymmrodorion
Image caption Y Parchedig Ddr Adrian Morgan, ysgrifennydd y gymdeithas

Ysgrifennydd aelodaeth y gymdeithas ydi'r Parch. Dr Adrian Morgan o Bontarddulais, ac ef hefyd oedd yn gyfrifol am arwain y prosiect i ddatblygu'r wefan newydd.

Bu tan yn ddiweddar yn darllen Diwinyddiaeth yng ngholeg Peterhouse, Prifysgol Caergrawnt, ond bellach, ef yw Curad Cynorthwyol Gorseinon yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu.

Mae'r Parch. Dr Morgan wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers yn ddisgybl ysgol: "Ar ôl mynychu darlith y Cymmrodorion yn y Brifwyl am rhai blynyddoedd, fe nes i benderfynu cefnogi'r Gymdeithas trwy ddod yn aelod'', meddai.

"Erbyn i mi gyrraedd y Chweched Dosbarth, roeddwn i'n arfer cymryd trên i Lundain er mwyn mynychu rhai o ddarlithoedd y Gymdeithas ar iaith a llenyddiaeth.

"Rydym fel cymdeithas yn denu'r siaradwyr gorau, pobl o bwys rhyngwladol sydd ar ffrig eu meysydd ac fe fydd y wefan yn dod a hanes Cymru i lygaid y byd ac fe fydd yn dwyn y trafodaethau sydd o bwys i'r Gymru fodern at sylw cynulleidfa ehangach.

"Rwy'n falch o fod yn aelod o'r Gymdeithas. Mae ganddi wreiddiau hynafol ac anrhydeddus ond mae'n parhau i wneud cyfraniad sylweddol a phwysig'', meddai.

Image caption Roedd Iolo Morganwg yn un o aelodau cynharaf y gymdeithas