Llofruddiaeth: Aros am bost mortem

Sameena Imam Image copyright Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr
Image caption Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry

Mae'r heddlu yn aros am ganlyniad archwiliad post mortem ar gorff Sameena Imam o Gaerdydd, fel rhan o ymchwiliad i'w llofruddiaeth.

Cafodd Sameena Imam, 34 oed, ei gweld am y tro diwethaf yn Coventry ar noswyl Nadolig ac mae dau frawd wedi cael eu cyhuddo o'u llofruddio.

Cafwyd hyd i'r corff dydd Gwener yng Nghaerlŷr.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r West Midlands nad oedd y corff wedi ei adnabod yn ffurfiol, ond fod teulu Ms Imam wedi cael gwybod am y datblygiad.

Cafodd yr archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Sadwrn.

Cafodd Roger Cooper, 40, o Coventry a David Cooper, 38, o Gaerlŷr eu cyhuddo o'i llofruddio dydd Mawrth.

Fe gawson nhw'u cadw yn y ddalfa.

Straeon perthnasol