Gleision 104-12 Rovigo

Lloyd Williams scores for the Blues. Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Lloyd Williams

Fe wnaeth y Gleision yn sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf yn Ewrop wrth guro Rovigo o'r Eidal ym Mharc yr Arfau.

Sgoriodd y tîm cartref 16 cais yn erbyn y tîm o chwaraewyr rhan amser yng Nghwpan Her Ewrop.

Cais Lewis Jones ar ddiwedd yr amser oedd yn cael ei ganiatáu am anafiadau ddaeth a'r Gleision dros y 100 pwynt.

Roedd yna 16 cais i'r Gleision.

Hwn oedd gem gyntaf Rhys Patchel i'r Gleision ers mis Medi, ac roedd fe chwaraeodd rhan amlwg wrth i'r tîm cartref chwalu'r gwrthwynebwyr.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod tîm y brifddinas yn ôl ar frig Grŵp Un.

Taith i Grenoble sy'n eu hwynebu yn eu gem olaf er mwyn ceisio sicrhau lle yn rownd nesaf.

Ddydd Sadwrn bydd Y Gwyddelod yn Llundain, prif wrthwynebwyr y Gleision yn y grŵp yn wynebu Grenoble.

Byddai buddugoliaeth gyda phwynt bonws yn rhoi'r Gwyddelod yn Llundain yn ôl ar frig y grŵp.