Canlyniadau rygbi nos Wener

Lloyd Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Lloyd Williams yn sgorio cais cyntaf i'r Gleision

Rhoddodd y Gleision gweir o 104-12 i Rovigo o'r Eidal ar Barc yr Arfau yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener, ond colli oedd hanes y Scarlets yn erbyn Caerlŷr yng Nghwpan y Pencampwyr.

Mewn gêm unochrog, fe lwyddodd y Gleision i sgorio 16 cais i gyd yn erbyn Rovigo.

Daeth Rhys Patchell yn ôl i garfan y tîm o'r brifddinas am y tro cyntaf ers mis Medi, ac fe adawodd ei farc ar y gêm gyda pherfformiad disglair.

Agorodd y llifddorau wedi wyth munud pan groesodd Liam Williams y llinell gais, ac fe suddodd Rovigo, sydd yn dîm o chwaraewyr rhan-amser, dan y don yn ystod gweddill y gêm.

Sgoriodd Richard Smith dri chais, gyda Williams ag Ellis Jenkins yn hawlio dau yr un i'r Gleision.

Mae un gêm ar ôl oddi cartref gan y Gleision yn erbyn Grenoble y penwythnos nesaf, a bellach dim ond y Gleision a Gwyddelod Llundain all ennill y grwp. Bydd y Gwyddelod yn chwarae Grenoble ddydd Sadwrn.

Colli oedd hanes y Scarlets yn erbyn Caerlŷr o 40-23 - ac felly fe fydd y tîm yn methu cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Pencampwyr.

Gyda'r Gweilch yn annhebygol o gyrraedd yr wyth olaf hefyd, mae'n ymddangos fel tymor arall heb ranbarth o Gymru yn wyth olaf y gystadleuaeth. Bydd y Gweilch yn chwarae Northampton ddydd Sul.