Gwario £70m ar ardaloedd menter Llywodraeth Cymru

parthau menter
Image caption Mae'r parthau menter yn canolbwyntio ar ddiwydiannau ynni a pheirianneg

Mae dros 2000 o swyddi wedi eu creu, a 3000 o swyddi wedi eu diogelu yn y saith ardal fenter gafodd eu creu gan Lywodraeth Cymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf.

Fe gafodd y Llywodraeth eu gorfodi i ryddhau'r ffigyrau yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru.

Roedd Plaid Cymru wedi gofyn am y wybodaeth, ond fe ddywedodd y llywodraeth yn wreiddiol y byddai rhyddhau'r ffigyrau yn gallu "effeithio ar uchelgais llywodraeth Cymru yn yr hirdymor".

Mae cyfanswm o £70m wedi ei fuddsoddi yn yr ardaloedd menter ers 2011, gyda'r arian yn cefnogi 188 o gwmniau.

Mae'r ffigurau yn dangos fod yna wahaniaethau yn nifer y swyddi newydd sydd wedi eu creu yn y gwahanol ardaloedd menter.

Cafodd y buddsoddiadau mwyaf eu gwneud yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy, sydd yn cynnwys cwmniau mawr Airbus a Tata Steel.

Gwelodd yr ardal fenter hon fuddsoddiad o £35.3m gan Lywodraeth Cymru, sydd yn dweud fod hyn wedi helpu i greu 779 o swyddi a diogelu 2,484 o swyddi pellach.

Dim ond £150,000 gafodd ei fuddsoddi yn ardal fenter Eryri, gan greu chwe swydd a diogelu dwy swydd arall. Mae'r ardal fenter hon yn cynnwys hen orsaf niwclear Trawsfynydd a safle maes awyr Llanbedr ger Harlech.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

''Mae'r holl ardaloedd menter yn gwneud cynydd da wrth greu amgylchiadau cywir er mwyn denu buddsoddiadau a swyddi yn yr ardaloedd y maen nhw wedi eu lleoli.''