Pledio'n ddi-euog i ladd llysfam

Llys y Goron Caerdydd Image copyright Lewis Clarke

Mae dyn 48 oed o Sheffield wedi pledio'n ddi-euog yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiad o lofruddio ei lysfam, y bardd Anne Jackson.

Cafodd Timothy Jackson ei gyhuddo o lofruddio'r bardd 78 oed wedi i'w chorff gael ei ddarganfod yn ei chartref ym Mrynbuga yn Sir Fynwy ar 1 Tachwedd.

Roedd hi a'i gŵr wedi dathlu pen-blwydd priodas y diwrnod cyn iddi farw.

Roedd Ms Jackson yn fardd oedd yn cyhoeddi ei gwaith dan yr enw Anne Cluysenaar.