Ymosodiad Tesco: Cadw dyn yn y ddalfa

Zachary Davies
Image caption Yn wreiddiol, roedd Zachary Davies fod i ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug dydd Llun.

Mae dyn 25 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn mewn archfarchnad Tesco yn y dref.

Fe ymddangosodd Zach Davies, o'r Wyddgrug, drwy gyswllt fideo o garchar Altcourse yn Lerpwl.

Siaradodd yn unig i gadarnhau ei enw.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn ymddangos eto ar 10 Mawrth lle mae disgwyl iddo gyflwyno ple, ac fe allai'r achos gael ei gynnal ym mis Mehefin.

Cafodd dyn anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn y siop ddydd Mercher diwetha'.

Straeon perthnasol