Anscombe yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru

Gareth Anscombe Image copyright Getty Images
Image caption Mae Anscombe yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd fod ei fam yn Gymraes

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda maswr y Gleision Gareth Anscombe wedi'i gynnwys am y tro cyntaf.

Mae tri chwaraewr arall sydd heb gapiau yn rhan o'r garfan 34-dyn, sef prop y Scarlets Rob Evans, bachwr y Gleision Kristian Dacey, ac olwr y Dreigiau Tyler Morgan, a arwyddodd gytundeb deuol yn ddiweddar.

Dywedodd Gatland: "Mae hi'n grêt gallu enwi carfan mor brofiadol, sydd hefyd yn cynnwys talent ifanc cyffrous."

Mae Anscombe, 23, wedi gwneud naw ymddangosiad i'r Gleision ers cyrraedd o Seland Newydd.

Mae ganddo bum cap i dîm dan 20 Seland Newydd ond mae'n gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd bod ei fam yn Gymraes.

"Mae Gareth Anscombe wedi creu argraff arna' i gyda'i allu i chwarae fel maswr neu gefnwr, a'i gicio'n ogystal," dywedodd Gatland.

"Roeddwn i'n meddwl bod Rob Evans yn dda iawn y penwythnos diwethaf. Rydym ni wedi ei gael yn y garfan o'r blaen, ac mae Kristian Dacey wedi creu argraff yn ogystal."

Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd Warren Gatland yn reoli Cymru am ei sethfed Chwe Gwlad flwyddyn yma

Does dim lle i'r prop profiadol Adam Jones, gafodd ei wahardd rhag gyrru am chwe mis ddoe, nac i Josh Navidi o'r Geision chwaith.

Enillodd cyn gapten tîm dan 20 Cymru ei unig gap llawn hyd yma mewn gêm yn erbyn Japan yn haf 2013.

"Roedd dadl hir am Adam [Jones]," dywedodd Gatland, wrth egluro ei benderfyniad i beidio cynnwys rhai chwaraewyr penodol.

"Gydag ef, dydyn ni ddim yn ei weld fel chwaraewr sydd â'r gallu i ddod oddi ar y fainc, rydym yn ei weld yn dechrau gemau.

"Rwy'n edmygu Josh Navidi a phe bawn i'n dewis chwaraewr rheng ôl arall, buasai yn y ffrâm."

Mae'r tri maswr yn y garfan, Dan Biggar, Rhys Priestland ac Anscombe, i gyd yn chwarae dros ranbarthau Cymru, sy'n golygu nad oes lle i Owen Williams, sy'n chwarae yng Nghaerlŷr, na James Hook, sydd yng Nghaerloyw.

Mae Scott Andrews o'r Gleision a'r Scarlet Gareth Davies wedi cael eu galw'n ôl i'r garfan wedi iddyn nhw fethu allan ar gemau'r Hydref.

'Carfan llawn profiad'

Mae Cymru wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dair gwaith ers i Gatland gyrraedd yn Hydref 2007, yn gynwys y Gamp Lawn yn 2008 a 2012.

Dywedodd y prif hyfforddwr: "Mae'r pedwar sydd eto i ennill eu cap cyntaf i gyd wedi bod yn addawol i'w rhanbarthau, a bydd hi'n dda eu gweld dan yr amgylchiadau yma.

"Maen nhw'n dod i mewn i garfan llawn profiad, a bydd y profiad yna yn bwysig i ni dros yr wyth wythnos nesaf, a'r flwyddyn gyfan.

"Rydym ni gyd yn gwybod pa mor anodd yw'r Chwe Gwlad, ac rydym yn dechrau'r bencampwriaeth gyda gêm enfawr yn erbyn Lloegr, sy'n rhywbeth cyffrous, rydym ni'n edrych ymlaen."

Bydd y garfan yn cwrdd ar 28 Ionawr, 10 diwrnod cyn gêm agoriadol y bencampwriaeth yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ar nos Wener, 6 Chwefror.

Carfan Cymru, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015:

Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Paul James (Caerfaddon), Rob Evans (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Scott Andrews (Gleision Caerdydd), Richard Hibbard (Caerloyw), Kristian Dacey (Gleision Caerdydd), Scott Baldwin (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing Metro), Dan Lydiate (Gweilch), James King (Gweilch), Sam Warburton (Gleisioni Caerdydd, Capt), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau Casnewydd Gwent).

Olwyr: Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Scarlets), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd), Cory Allen (Gleision Caerdydd), Jamie Roberts (Racing Metro), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Scott Williams (Scarlets), Tyler Morgan (Dreigiau Casnewydd Gwent), Hallam Amos (Dreigiau Casnewydd Gwent), Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), George North (Northampton Saints), Liam Williams (Scarlets), Leigh Halfpenny (Toulon).