Llai o uwch-reolwyr i gyngor Caerdydd

Neuadd y ddinas Image copyright Lewis Clarke/Geograph
Image caption Mae Cyngor Caerdydd yn cynllunio i arbed £32m o'i gyllideb yn 2015/16

Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio lleihau nifer eu tîm rheoli fel rhan o fesurau i arbed arian.

Os fydd y cabinet a'r cyngor llawn yn cytuno, bydd y tîm rheoli'n cael ei gwtogi o 11 i 7 gan arbed £650,000 yn 2015-16.

Fe ddywed y cyngor bod ailstrwythuro'n hanfodol fel y gall ganolbwyntio ar wasanaethau addysg a phlant.

Os fydd y pedair swydd yn diflanu, bydd nifer o'r swyddi eraill yn cael eu cyfuno gan rhannu cyfrifoldebau.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Phil Bale: "Rydym yn credu bod uno rhai o'r swyddi yma yn gydnaw gyda'n blaenoriaethau, yn ein gwneud yn fwy cynaliadwy ac yn ein galluogi i ymdopi â'r heriau sydd o'n blaenau."

Straeon perthnasol