Dover Athletic 2-0 Wrecsam

Tom Murphy Image copyright Getty Images
Image caption Mae Tom Murphy wedi sgorio 10 gôl mewn 20 o gemau i Dover

Llwyddodd Dover i ymestyn eu rhediad o 13 gêm heb golled yn y Gyngres gyda budduogoliaeth gyfforddus dros Wrecsam, oedd ddim yn eu hwyliau.

Sicrhaodd Tom Murphy y fantais i'r tîm cartre' ar ôl 12 munud, wedi i Wes York fethu dau gyfle cynnar i'r Dreigiau.

Sean Raggett ddyblodd fantais Dover cyn yr egwyl.

Er i'r Dreigiau bwyso ar ddechrau'r ail hanner, methodd Mark Carrington gyfle gwych.

Dim ond dwy o'r 15 gêm ddiwetha' mae tîm Kevin Wilkin wedi'u hennill.