Cuthbert yn gwrthod cytundeb deuol

Alex Cuthbert Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cuthbert wedi ennill 30 o gapiau dros Gymru

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi datgelu bod yr asgellwr Cymru Alex Cuthbert wedi gwrthod y cynnig o gytundeb deuol.

Yn ôl Gatland mae penderfyniad Cuthbert, 24 oed, yn "rhoi cyfle i rywun arall."

"Mae ganddo [Cuthbert] flwyddyn arall ar ôl gyda'i gytundeb gyda'r Gleision. Fe wnaethon ni gynnig cytundeb iddo, ac oherwydd ei resymau ei hun fe wnaeth o ei wrthod," meddai Gatland.

"Does dim pwysau ar chwaraewyr i dderbyn cytundebau deuol."

Capten Cymru Sam Warburton oedd y cyntaf o saith chwaraewr i arwyddo cytundeb deuol.

Daeth cytundebau deuol i fodolaeth yn Awst eleni yn dilyn cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau, gyda Gatland yn rhan allweddol o'r broses.

O dan delerau'r cytundeb bydd chwaraewr yn cael ei gyflogi ar y cyd gan yr undeb a'r rhanbarth gyda'r undeb yn talu 60% o'i gyflog a'r rhanbarth yn talu'r gweddill.