Gohirio ymchwiliad Irac yn 'sarhad' yn ôl Elfyn Llwyd

Elfyn Llwyd
Image caption Roedd Mr Llwyd yn rhan o ymdrechion amlwg i uchelgyhuddo Tony Blair

Mae'r penderfyniad i ohirio cyhoeddiad adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad swyddogol i'r Rhyfel in Irac yn 2003 yn "sarhad" yn ôl yr AS Elfyn Llwyd.

Mae disgwyl i gadeirydd yr ymchwiliad gadarnhau mewn llythyr i David Cameron bod ei gyhoeddiad wedi cael ei ohirio nes ar ôl yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai.

Dechreuodd y gwaith i'r ymchwiliad yn 2009, gyda'r gwrandawiad cyhoeddus olaf yn 2011.

Mae AS Plaid Cymru Elfyn Llwyd wedi bod yn feirniadol o'r ffordd yr aeth y DU i ryfel yn Irac.

Roedd yn rhan o ymdrechion amlwg o 2004 ymlaen i uchelgyhuddo'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair, am gamarwain y Senedd am y rhyfel.

Dywedodd Mr Llwyd wrth Raglen Dylan Jones, BBC Radio Cyrmu:"Dwi'n credu ei fod o mewn perygl o danseilio hygrededd yr ymchwiliad yn gyffredinol.

"Mae'n rhaid i ni gofio hefyd bo' 'na berygl fan hyn bo chi'n cadw'r gwirionedd oddi wrth y cyhoedd tan ar ôl yr etholiad ac mae hynny yn fy marn i yn nacau democratiaeth, " meddai Mr Llwyd AS Dwyfor Meirionnydd.

"Ac os yda ni isio cael y cyhoedd i fod yn rhan o'r broses wleidyddol dyma'r peth olaf da chi'n neud yn arbennig felly gan mai'r cyhoedd sy'n talu'r miliynau am yr adroddiad yn y lle cynta'. "