Cwmni Admiral yn creu 280 o swyddi ar draws dde Cymru

Adeilad Admiral Caerdydd Image copyright Admiral
Image caption Mae'r cwmni yn edrych i lenwi 150 o swyddi yng Nghaerdydd

Mae cwmni yswiriant Admiral yn bwriadu recriwtio mwy na 280 o bobl ar draws dde Cymru.

Mae'r cwmni yn edrych i lenwi 150 o swyddi yng Nghaerdydd, mwy na 100 yn Abertawe a mwy na 30 yng Nghasnewydd.

Bydd y rolau mewn canolfannau cysylltu, yr adran dechnoleg gwybodaeth a'r adran gyfreithiol.

Mae'r newyddion yn dod wedi i ffigyrau newydd ddangos bod diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 7%, gyda 103,000 o bobl allan o waith yn y tri mis rhwng Medi a Thachwedd.

Dywedodd bennaeth gwasanaethau pobol Admiral, Ceri Assiratti: "Rydym yn hyderus iawn y gwnawn ni ddarganfod mwy o bobl o safon i gwrdd â'n hanghenion recriwtio presennol."