Clybiau cyfoethog: Abertawe yn rhif 29

Swansea City Image copyright Getty Images

Clwb Pêl-Droed Abertawe yw'r clwb cynta o Gymru i ymddangos yn 30 uchaf Tabl Arian Pêl-Droed Deloitte, gydag incwm o £98.7m.

Mae'r Elyrch yn rhif 29 yn y tabl, ond oherwydd llwyddiant Uwch Gynghrair Lloegr, mae 12 o glybiau eraill o'r gynghrair o'u blaenau.

Mae tabl Deloitte yn nodi'r clybiau sydd â'r incwm mwyaf yn y byd, ond dyw'r ffigwr ddim yn cynnwys pris cyfnewid chwaraewyr â chlybiau eraill.

Mae Caerdydd hefyd yn ymddangos yn y 40 uchaf, ar ol ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2013, ond mae disgwyl i'w hincwn ostwng ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae'r rhestr yn edrych ar faint o elw mae'r clwb yn ei wneud o werthiant ar ddiwrnod gêm, cytundebau darlledu a phres gan noddwyr.

Yn ôl Deloitte, mae dyrchafiad yr Elyrch i Gynghrair Europe UEFA y tymor diwethaf wedi iddyn nhw guro Cwpan y Gynghrair yn 2013, wedi denu elw mawr.

Hynny, yn ogystal â thwf incwm darlledu wedi eu dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr sy'n gyfrifol am lwyddiant ariannol diweddar y clwb,