Agor a gohrio cwest i farwolaeth tafarnwr o Gaergybi

Tafarn
Image caption Tafarn Blossoms yng Nhaergybi

Cafodd cwest i farwolaeth tafarnwr o Gaergybi ei agor a'i ohirio ddydd Mercher.

Clywodd y gwrandawiad yn Llangefni fod corff David Jones, 46, wedi ei ddarganfod yn nhafarn Blossoms yng Nghaergybi ar 12 Rhagfyr.

Mae dyn 24 oed wedi ei gyhuddo o'i lofruddio. Bydd Peter Garrod o Fae Trearddur yn cael y cyfle i bledio mewn gwrandawiad yn Llys y Goron ym mis Chwefror, ar ôl iddo gael ei gadw yn y ddalfa mewn gwrandawiad cynharach yn yr Wyddgrug.

Clywodd y cwest ddydd Mercher fod David Jones wedi marw ar ôl derbyn anaf difrifol i'w ben.

Straeon perthnasol