Corff Sameena Imam: Yr heddlu yn cadarnhau'n ffurfiol

Sameena Imam Image copyright Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr
Image caption Cafodd Sameena Imam ei gweld ddiwethaf tu allan i'w gwaith yn Coventry

Mae'r heddlu wedi cadarnhau yn swyddogol mai corff Sameena Imam o Gaerdydd gafodd ei ddarganfod ar dir yng Nghaerlŷr ddydd Gwener.

Cafodd Sameena, 34, ei gweld am y tro diwethaf yn Coventry ar noswyl Nadolig, ac mae dau frawd, Roger Cooper, 40, o Coventry a David Cooper, 38, o Gaerlŷr wedi eu cyhuddo o'i llofruddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu West Midlands fod y corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol a bod teulu Ms Imam wedi cael gwybod am y datblygiad.