Edinburgh yn cytuo cytundeb newydd yng Nghasnewydd

Justin Edinburgh Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd cytundeb Edinburgh yn rhedeg nes 2016 cyn yr estyniad

Mae rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, Justin Edinburgh, wedi rhoi taw ar sibrydion am ei ddyfodol wrth gytuno i estyn ei gytundeb nes 2017.

Roedd Edinburgh, 45 oed, wedi cael ei gysylltu â swydd wag rheolwr Gillingham yn y dyddiau diwethaf, ar ôl iddynt roi'r sac i'w hyfforddwr Peter Taylor.

Arweiniodd Casnewydd i ddyrchafiad o'r Gyngres yn 2013 ac mae wedi gweld ei glwb yn codi i'r pumed safle yn yr ail adran y tymor yma.

Roedd cytundeb y cyn-amddiffynnwr yn rhedeg tan 2016 cyn yr estyniad.

Pwysleisiodd ddydd Mercher nad oedd Gillingham wedi cysylltu gydag ef.

"Does dim i'w ddiystyru," meddai. "Rydw i wedi cael fy nghysylltu gyda nhw, ond dyw'r clwb na fi wedi cael unrhyw gyswllt, felly dydw i ddim yn disgwyl bod unrhyw beth y gallaf ddiystyru os does dim i'w ddiystyru."