£10m i hybu gofal sylfaenol yn lleol

gofal sytlfaenol

Darparu gofal sylfaenol yn lleol yw'r nod, wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £10 miliwn mewn cronfa.

Mewn cyhoeddiad ddydd Iau, fe ddywedodd y llywodraeth y bydd yr arian - gafodd ei glustnodi ym mis Tachwedd - yn golygu y bydd mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu darparu gofal yng nghartrefi pobl neu'n agos atynt.

Fe fydd hyn, yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn rhyddhau amser ac arbenigedd meddygon teulu i ofalu am bobl ag anghenion mwy cymhleth

Fe fydd yr arian - fydd ar gael yn 2015-2016 - yn adeiladu ar y cyllid ychwanegol o £3.5m ar gyfer gofal sylfaenol yn 2014-15.

Fe wnaeth Mark Drakeford y cyhoeddiad wrth iddo annerch cynhadledd prif weithredwyr y GIG ar ofal sylfaenol, gan ddweud "y bydd y gronfa gofal sylfaenol yn helpu i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a'u timau ac yn lleihau'r galw ar ofal ysbytai drwy wella mynediad at wasanaethau iechyd lleol o ansawdd."

Bydd y rhan fwyaf o'r gronfa - £6m - yn cael ei ddyrannu i'r 64 o 'glystyrau' gofal sylfaenol ledled Cymru - grwpiau o feddygfeydd teulu yn cydweithio gyda gwasanaethau cymunedol fel fferyllwyr, deintyddion, optometryddion, therapyddion, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd.

Beth allai'r £6m olygu i'r clystyrau?

  • Ystod ehangach o weithwyr proffesiynol, fel fferyllwyr a ffisiotherapyddion, yn rhan integredig o wasanaethau meddygon teulu a thimau lleol a all ddarparu gofal yn y cartref ddydd a nos. Bydd hyn yn helpu pobl â chyflyrau hirdymor i reoli eu hiechyd a'u meddyginiaeth, cadw eu hannibyniaeth drwy osgoi derbyniadau annisgwyl i'r ysbyty a chael cymorth parhaus ar ôl eu rhyddhau o'r ysbyty. Bydd y cymorth clinigol ehangach hwn yn rhyddhau amser ac arbenigedd meddygon teulu i ofalu am bobl ag anghenion mwy cymhleth;
  • Tîm cymorth gofal sylfaenol hyblyg i ddarparu gofal locwm neu roi hyfforddiant a chyngor ar gyfer rheoli pwysau ar wasanaethau lleol;
  • Mentrau cymunedol i fynd i'r afael â ffactorau lleol sy'n effeithio ar iechyd;
  • Cyfeiriaduron gwasanaethau lleol fel bod pobl yn gwybod pryd a ble i fynd i gael y cymorth iawn ar yr amser iawn;
  • Cydgysylltwyr gofal;
  • Cydweithio rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol a gwasanaethau;
  • Hyfforddi a datblygu i ehangu a datblygu'r clystyrau gofal sylfaenol i greu cynghreiriau a gwaith partneriaeth lleol effeithiol rhwng pob gwasanaeth lleol, gan gynnwys llywodraeth leol a gwasanaethau'r trydydd sector, a mynd â gwasanaethau ysbytai traddodiadol i'r gymuned, lle bo hynny'n briodol. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau i bobl â diabetes a chyflyrau anadlol.

A beth am weddill yr arian?

Bydd £3m yn cael ei roi i nifer o gynlluniau strategol ledled Cymru. Bydd byrddau iechyd a'u partneriaid yn datblygu cynigion penodol, gan gynnwys sut mae gwella mynediad at wasanaethau.

Mae £1m yn cael ei ddyrannu i nifer o brosiectau er mwyn helpu i gyflawni'r cynllun gofal sylfaenol.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Ry'n ni'n symud o ganolbwyntio ar ofal mewn ysbytai i wella iechyd y cyhoedd a gofal yn y gymuned.

"Bydd y buddsoddiad dwi'n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi ein clystyrau gofal sylfaenol lleol i fuddsoddi mewn gweithlu medrus, datblygu gwasanaethau yn ôl galw, a lle bo'n bosibl, darparu gofal yn agosach at gartrefi pobl, gan leddfu'r pwysau ar feddygon teulu a'u timau a'r galw am wasanaethau ysbytai.

"Ry'n ni hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni lleol i fynd i'r afael â'r elfennau cymdeithasol sy'n effeithio ar iechyd drwy gynllunio a darparu gofal mewn ffordd sy'n cyd-fynd ag angen, fel y rhaglen Living Well Living Longer, a lansiwyd ym Mlaenau Gwent rai wythnosau yn ôl sy'n targedu achosion sylfaenol clefyd cardiofasgwlaidd."

Straeon perthnasol