Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Arwydd Lidl Image copyright Getty Images
Image caption Yn ôl Huw Onllwyn Lidl ac Aldi yw'r llefydd i fynd.

I Sainsbury's fydd Huw Onllwyn yn arfer mynd i brynu ei fwyd. Ond fel y sonia ar wefan Pobl Caerdydd, mae'n debyg ei fod yn berson ffôl iawn.

Lidl ac Aldi yw'r llefydd i fynd.

Bargenion! Ansawdd gwych! Dim nonsens!

Felly fe benderfynodd fentro i un o'r siopau hyn ac yn sgil ei ymweliad, mae ganddo nifer o bryderon.

Un o'r rhain yw bod y siopau'n ein harwain i osod ein ffocws yn ormodol ar bris bwyd, gyda'r nod o dalu cyn lleied â phosib am y cynnyrch, ac felly ddwyn ein sylw oddi ar chwilio am y bwydydd gorau.

Yn hytrach na chwilio am yr afalau Prydeinig gorau (a mynnu bod ein siopau'n eu cynnig i ni), mae ffocws y siopwr yn mynd ar dalu cyn lleied â phosib er mwyn dod a'r afalau (o ble?) adref.

Ac wedyn brolio am hynny i'w deulu a'i ffrindiau. Ac mae Huw'n holi tybed a fyddai'r un siopwr yn brolio cyn lleied a wariwyd ganddo ar anrhegion Nadolig i'w blant?

Image caption Gwilym Owen: Beth sy'n ei gwneud hi'n amhosib i Gylch yr Iaith a Dyfodol i'r Iaith roi eu hysgwyddau y tu ôl i genhadaeth Cymdeithas yr Iaith?

O sôn am ffocws, yr wythnos ddiwethaf ymddangosodd llythyr agored at Fwrdd Rheoli Cartrefi Cymunedol Gwynedd yng ngholofn lythyrau'r Cymro a Golwg, wedi'i lofnodi gan gynghorydd Plaid Cymru ynghyd â chynrychiolwyr Cylch yr Iaith, Dyfodol i'r Iaith a Chymdeithas yr Iaith.

Yn ôl Gwilym Owen yn Golwg mae hyn yn dangos gwendid amlwg ymhlith ymgyrchwyr dros y Gymraeg.

Mae'n holi beth yw'r gwahaniaethau polisi rhwng y tri mudiad iaith sydd wedi arwyddo: oni fyddai anghofio'r gwahanol deitlau ac ymddangos dan un ambarél yn gam llawer iawn mwy effeithiol?

Neu beth sy'n ei gwneud hi'n amhosib i Gylch yr Iaith a Dyfodol i'r Iaith roi eu hysgwyddau y tu ôl i genhadaeth Cymdeithas yr Iaith - mudiad sy'n berchen ar weinyddiaeth a phrofiad a digon o egni?

Image copyright Wales News Service
Image caption Chwaraewyr Caerdydd yn chwarae yn eu gêm gyntaf ers i'r crysau glas gael eu hadfer.

Un ymgyrch sydd wedi llwyddo'n ddiweddar yw un cefnogwyr tîm pêl-droed Caerdydd.

Er i Vincent Tan achub y clwb gyda'i arian mawr, mae'r penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i adfer crysau glas y Bluebirds yn dangos grym y cefnogwyr, yn ôl Lyn Ebenezer yn y Cymro.

Diwedd y gân yw'r geiniog, a phan gadwodd y miloedd draw, fe welodd Tan y golau, ac mae'r glas a'r aderyn yn ôl yn eu priod le.

Mae traddodiad yn bwysig yn ôl Lyn.

Pan ymunodd Clwb y Bont â Chynghrair Aberystwyth a'r Cylch ym 1947, gwyn oedd lliw'r crysau.

Y rheswm am hyn oedd mai'r chwaraewyr eu hunain fyddai'n eu prynu, a chrysau gwyn oedd yr hawsaf a'r rhataf i'w prynu yn y siopau dillad.

Ac er bod lliwiau'r clwb wedi newid sail tro dros y blynyddoedd, mae'r cefnogwyr, sy'n cynnwys y Ficer a'r Gweinidog Methodist, yn dal i weiddi 'Come on the Lilly Whites!' o ochr y cae.

Image copyright PA
Image caption Mae Catrin Williams yn galw ar i'r Sun symud gyda'r oes, gan ddweud nad oes angen na phwrpas i dudalen 3 yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw.

Ddechrau'r wythnos roedd yn ymddangos bod yr ymgyrch yn erbyn lluniau o fenywod bronnoeth ym mhapur newydd y Sun wedi dwyn ffrwyth hefyd, ond byrhoedlog oedd y newid yn y papur gyda Nicole o Bournemouth yn ôl ar dudalen 3 ddoe yn ddi-ddillad.

Ar flog Golwg 360, mae Catrin Williams yn galw ar i'r Sun symud gyda'r oes, gan ddweud nad oes angen na phwrpas i'r dudalen yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw.

Efallai ei fod yn arferiad sydd wedi para 44 o flynyddoedd, meddai, ond wrth i ferched geisio gael yr un statws a dynion mewn cymdeithas a chael eu trin yn gyfartal, mae cael llun dynas bronnoeth mewn papur newydd dyddiol wir yn niweidio'r ddelwedd newydd yma.

Falle wir, ond dyw hi ddim yn ymddangos fod golygydd y Sun yn cytuno.