Ruth Hussey: 'Gwasanaeth dan bwysau'

ysbyty Image copyright Science Photo Library

Fel rhan o 'Wythnos Iechyd BBC Cymru' mae Dr Ruth Hussey OBE, y Prif Swyddog Meddygol, wedi rhannu ei hasesiad o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gyda gwefan Cymru Fyw. Yn yr erthygl mae hi`n ceisio darogan pa fath o wasanaeth iechyd fydd yn bodoli yn ystod bywyd babi sy`n cael ei eni ym Mis Ionawr 2015.

Angen Newid

Bob blwyddyn, caiff tua 35,000 o fabanod eu geni yng Nghymru. Rydyn ni i gyd eisiau'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant, a'u bod nhw'n mynd ymlaen i fyw bywydau llwyddiannus ac iach gyda phob cyfle posibl i wireddu eu llawn botensial.

Ond rydyn ni'n gwybod bod disgwyliad oes yn amrywio'n fawr yn ôl cefndir cymdeithasol ac economaidd unigolion.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yno i ni drwy gydol ein bywydau, ond mae pawb yn gwybod ei fod o dan bwysau.

Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae mwy a mwy y gall y Gwasanaeth Iechyd ei wneud i bobl; mae hyn, ynghyd â phatrwm o iechyd gwael - gyda llawer ohono'n iechyd gwael y gellid ei osgoi - yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, yn enwedig ymysg pobl hŷn.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw rhan o'r ateb i sicrhau bod ein holl blant yn tyfu i fyny ac yn cadw'n heini ac iach, ond ni all wneud popeth. Mae angen i ni newid i'w helpu i ffynnu.

Image caption Y Prif Swyddog Dr Ruth Hussey

Iechyd plant

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella'r cyfleoedd mewn bywyd i'n holl blant - trechu tlodi ac amgylchiadau anodd yn y cartref, cefnogi rhieni, a rhoi cyfleoedd cynnar i blant gymdeithasu a dysgu.

Mae rôl hanfodol i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd o ran sicrhau ein bod ni'n gwneud pob plentyn yn blentyn iach. O'u geni tan oedran cyn-ysgol, mae'r gwasanaeth iechyd yn asesu iechyd a datblygiad pob plentyn yng Nghymru, sy'n golygu bod modd adnabod problemau posibl ac ymyrryd yn gyflym pan fydd angen.

Nesaf, mae angen addysg gadarn sy'n rhoi'r cyfle i bob plentyn ganfod ei ffordd drwy fywyd. Diben hyn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau am oes. Mae bron pob ysgol yn rhan o'n rhaglen ysgolion iach. Mae'n hanfodol bod ein plant yn gwybod sut i ddiogelu a sicrhau eu hiechyd meddwl a chorfforol eu hunain ac osgoi unrhyw ymddygiad sy'n achosi salwch.

Mae'r dull hwn - mwy o waith i atal problemau ac ymyrraeth gynnar effeithiol, a gwneud pobl yn fwy cydnerth a hunan-ymwybodol - yn cyd-fynd â'r hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer pobl o bob oedran.

Image copyright Science Photo Library
Image caption 'Mae angen cydweithio â chymunedau i ddatrys ymddygiad niwediol'

'Bargen newydd'

Mae angen i'r Gwasanaeth Iechyd ddeall problemau a disgwyliadau pobl. Ochr yn ochr â hyn, mae'n rhaid i bobl ofalu am eu hiechyd eu hunain a sut mae nhw'n defnyddio'r Gwasanaeth Iechyd.

Rydyn ni'n gwybod y gall osgoi pedwar ymddygiad niweidiol - smygu, goryfed, deiet gwael a diffyg ymarfer corff - dalu ar ei ganfed o ran atal clefydau fel diabetes math 2 a dementia.

Mae polisïau'r llywodraeth yn helpu i greu'r amgylchiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer iechyd da, ond mae hefyd angen partneriaeth agos rhwng y Gwasanaeth Iechyd a chymunedau i oresgyn gwreiddiau'r problemau hyn.

Yr unig ffordd i'r genhedlaeth newydd fod yn iach yw i ni weithio mewn partneriaeth fel hyn. Yr unig ffordd i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod yn iach a ffyniannus yw i ni ei gefnogi a'i ddefnyddio'n ddoeth.

Mae angen taro bargen newydd, gyda'r Gwasanaeth Iechyd, Llywodraeth Cymru ac eraill yn gwneud popeth yn eu gallu i greu'r amodau i bobl allu diogelu eu hiechyd. Ond mae hefyd yn rhaid i bobl - yn unigolion, yn gymunedau ac yn deuluoedd ym mhob rhan o Gymru - wynebu'r her a chwarae eu rhan o ran gwella iechyd y genedl.