Dewiniaeth ddu: Carchar am 17 mlynedd

Albert a Carolee Hickman Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd y ferch 11 oed ei dal i lawr gan Carolee Hickman er mwyn i Albert Hickman ei threisio

Mae cwpwl fu'n bwlio merch ysgol gyda bygythiadau o "ddewiniaeth ddu" cyn ei threisio wedi cael eu carcharu am 17 mlynedd.

Dywedodd Carolee Hickman, o Sain Tathan ym Mro Morgannwg, wrth y ferch 11 oed ei bod yn rhan o gynulliad cryf o wrachod cyn gorfodi'r ferch i gael rhyw gyda'i gŵr Albert.

Fe wnaeth y ferch wthio'r mater o'i meddwl am 40 mlynedd tan iddi fynd am gwnsela yn 2011.

Mae'r ferch bellach yn 53 oed, a dywedodd wrth y rheithgor yn yr achos fis diwethaf y byddai Hickman yn gwneud bygythiadau i ladd ei mam gan ddefnyddio dewiniaeth ddu.

Clywodd y llys bryd hynny bod Hickman, sydd bellach yn 64 oed, wedi sugno gwaed y ferch ar ôl torri ei bawd gyda "chyllell arbennig".

Wedi i Mrs Hickman ddal i ferch i lawr fe wnaeth Albert Hickman ei threisio.

Dywedodd y ddioddefwraig mewn datganiad bod y cwpwl wedi dinistrio'i bywyd, ac nad oedd yn medru cysgu gyda'r golau wedi'i ddiffodd hyd heddiw.

Wrth ddedfrydu'r cwpwl ddydd Iau, dywedodd y barnwr Dan Williams eu bod wedi egsploitio'r ferch yn ddidrugaredd.

Clywodd y llys hefyd bod Albert Hickman wedi cael ei garcharu am ddeng mlynedd o'r blaen am dreisio merch ifanc yn 1982, a bod Carolee Hickman wedi cael pum mlynedd o garchar am ddal plentyn i lawr wrth iddi gael ei threisio.