Elaines
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cerddi Gwallt-co ym Mhenygroes

23 Ionawr 2015 Diweddarwyd 14:56 GMT

Mae gweithwyr mewn siop trin gwallt yng Ngwynedd mewn dryswch ac yn edrych am atebion wedi iddyn nhw dderbyn cerddi anhysbys trwy'r post gan 'fardd' dirgel.

Dywedodd staff yn salon Elaine's ym Mhenygroes bod y cerddi, sydd wedi eu hysgrifennu â llaw mewn inc arian ar gerdyn du, yn cael eu gyrru o Sir Gaerhirfryn ac wedi dechrau cyrraedd ym mis Tachwedd y llynedd.

I ychwanegu at y dirgelwch, mae'n ymddangos fod y 'bardd' wedi gwneud yr un peth yn Sir Gaerhirfryn ychydig flynyddoedd yn ôl, yn galw ei hun yn 'The Composer Mark Jones' ac yn postio ei waith i salon yno heb unrhyw eglurhad pellach.

Dyma adroddiad Dafydd Gwynn ar Newyddion 9.