Gwyddonwyr disglair Cymru

Syr John Meurig Thomas

Wrth i gynhadledd Mathemateg am Oes gael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr 2015, mae un o wyddonwyr amlycaf Cymru wedi dweud wrth Cymru Fyw nad oes digon yn cael ei wneud yma i ddathlu ein mathemategwyr a'n gwyddonwyr blaenllaw.

Yn wreiddiol o'r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Athro Syr John Meurig Thomas yn enw amlwg ym myd Cemeg. Roedd yn Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Brenhinol cyn dychwelyd i Brifysgol Caergrawnt ble mae'n Athro Emeritws Cemeg Cyflwr Solet.

Bu Syr John yn trafod gyda Cymru Fyw rai o'r gwyddonwyr a'r mathemategwyr a ddylai, yn ei farn o, gael rhagor o glod:

Richard Price (1723-1791): Yn athronydd, diwinydd a phregethwr, fe ddechreuodd ddefnyddio ystadegau ar gyfer pwrpasau yswiriant a lwfans. Cafodd radd o Brifysgol Yale tua'r un adeg ag arlywydd cyntaf America, George Washington.

David Edward Hughes (1831 -1900): Ganwyd yng Nghorwen, Sir Ddinbych. Fe oedd y dyn cyntaf i allu defnyddio radio - roedd hyd yn oed yn gallu gwneud hynny cyn Marconi. Roedd yn ddyn amryddawn, a'r teligraff oedd y peth pennaf iddo'i ddarganfod a'i ddatblygu.

Image copyright Arall
Image caption David Edward Hughes - arloeswr yn y maes darlledu

Evan James Williams (1903-1945): Y ffisegydd yma oedd un o'r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed yn fy marn i. Fe orffenodd ei yrfa fel Athro Ffiseg yn Aberystwyth. Yn drist iawn bu farw yn 42 oed.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn flaenllaw yn yr ymdrechion i ymosod ar yr U-Boats oedd yn suddo llongau bwyd a oedd yn teithio o'r Unol Daleithiau i Brydain.

Fe wnaeth waith aruthrol o bwysig, ac ef oedd y cyntaf, yn Aberystwyth, i ddod o hyd i'r particl Meson, sy'n rhan o niwclews yr atom.

E.G. Bowen (1911-1991): Fe oedd y person mwyaf disglair yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar waith yn ymwneud â Radar. Roedd yn seryddwr disglair, ac aeth i weithio yn Awstralia lle roedd yn gweithio ar ddatblygu telesgop ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae 'na nifer o wyddonwyr a mathemategwyr cyfoes a chysylltiadau Cymreig sydd hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth amlycach na maen nhw wedi ei gael hyd yma, yn ôl yr Athro Syr John Meurig Thomas.

Yr Athro Robin Williams: Yn wreiddiol o'r Bala, yr Athro Robin Williams oedd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe o 1994 hyd 2003. Cyn hynny roedd yn Bennaeth Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn Is-Ganghellor yno hefyd.

Mae ei ymchwil arloesol ar arwynebau a rhyngwynebau lled-ddargludyddion yn dal i gael ei ddefnyddio fel sail i ymchwil pellach i'r pwnc - yn enwedig ar natur y strwythur ac amherffeithrwydd rhyngwyneb a'u dylanwad ar rwystrau trydanol.

Yr Athro Emeritws Kenneth Walters: Y mathemategydd sydd yn dal i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, er ei fod yn Athro Emeritws bellach.

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Yr Athro Kenneth Walters

Yr Athro David Williams: Dyn galluog iawn o Benrhyn Gŵyr. Yn gyntaf, roedd yn Athro yn Abertawe oedd yn arbenigo mewn mathemateg ystadegau. Aeth i Gaergrawnt, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caerfaddon. Mae'n wirioneddol ddisglair - un o'r mathemategwyr ystadegau gorau yn y byd.

Yr Athro Fonesig Jean Thomas: Athro mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae hi'n Feistr ar Goleg St Catherine's yng Nghaergrawnt, y ferch gyntaf i'w hethol i'r swydd. Mae hi'n uchel ei pharch yn y byd biocemeg.

Image caption Yr Athro Fonesig Jean Thomas

Yr Athro Syr Sam Edwards: Yr Athro Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt - sef un o'r swyddi mwyaf yn y byd i unrhyw ffisegydd. Mae'n awdurdodol iawn efo polymers a geliau, ond wedi ymddeol erbyn hyn.

Yr Athro Syr Leszek Borysiewicz: Is-Ganghellor Prifysgol Caergrawnt ar hyn o bryd. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a chael ei addysg gynnar yno ac mae ei wraig o Aberaeron. Mae o wedi gwneud gwaith aruthrol o bwysig ym myd meddygaeth.

Roedd yn bennaeth ar y Cyngor Ymchwil Meddygol cyn cael ei benodi yn Is-Ganghellor un o sefydliadau addysg pwysicaf y byd.

Image copyright Cambridge University
Image caption Leszek Borysiewicz

Yr Athro Syr Keith Peters: O Bort Talbot, mae'n adnabyddus trwy'r byd. Mae'n gyn bennaeth ar Ysgol Feddygol Prifysgol Caergrawnt, a hefyd yn Llywydd y Gymdeithas Wyddoniaeth Feddygol (Fellowship of Medical Science).

Yr Athro Syr Vaughan Jones: Er na chafodd ei eni yng Nghymru, mae ei dad yn dod o Gwm Gwendraeth. Dyma un o'r mathemategwyr mwya' yn y byd ar hyn o bryd. Mae'n gweithio ym Mhrifysgol Vanderbilt yn Nashville yn yr Unol Daleithiau ond daw o Auckland yn Seland Newydd lle cafodd ei addysg.

Enillodd y Fedal Fields, sy'n cael ei chyfri' fel Gwobr Nobel i Fathemategwyr. Mae wedi bod yn Athro yn Berkeley yn California ac yn Geneva, a nawr mae'n Vanderbilt yn Nashville.

Ond mae'n dod i Gymru yn weddol gyson - mae'n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae'n cydweithio gyda'r Athro David Evans o Brifysgol Caerdydd.

Image copyright Arall
Image caption Syr Vaughan Jones, y mathemategydd o dras Cymreig

Oes 'na wyddonwyr neu fathemategwyr eraill y byddech chi yn eu hychwanegu at y rhestr? Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw