Cynghorydd sir o Lanfairpwll yn gwadu blacmelio

Image caption Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth

Mae cynghorydd sir o Wynedd wedi gwadu blacmelio dyn busnes fwy na blwyddyn yn ôl.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug honiadau fod Christopher James O'Neal, 36 oed, wedi mynnu £7,500 oddi wrth y dyn ar Ragfyr 27, 2013.

Plediodd yn ddieuog.

Mae'r cynghorydd Annibynnol o Lanfairpwll yn cynrychioli ward Marchog ym Mangor ac yn bennaeth cwmni diogelwch.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd achos ar Fehefin 10.