Dreigiau 30-19 Stade Francais

Tom Prydie Image copyright Huw Evans picture agency

Gêm gartref fydd gan y Dreigiau yn rownd wyth olaf Cwpan Her Ewrop ar ôl buddugoliaeth gyfforddus dros Stade Francais ar Rodney Parade.

Roedd y tîm cartref ar dân i ac roedden nhw 16-0 ar y blaen wedi dim ond 22 munud diolch i gais Elliot Dee a chicio cywir Tom Prydie.

Tarodd Stade yn ôl gyda cheisiadau gan y canolwr Krisna Inu a'r bachwr Zurabi Zhvania.

Daeth cais Thomas Rhys Thomas a'r fuddugoliaeth yn nes i'r Dreigiau, ond roedd na ddiweddglo llawn tensiwn wedi i Remi Bonfils groesi am gais arall i'r ymwelwyr.

Dreigiau: Geraint Rhys Jones; Tom Prydie, Tyler Morgan, Jack Dixon, Hallam Amos; Dorian Jones, Jonathan Evans; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, James Thomas, Rynard Landman (capt), Lewis Evans, Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: T Rhys Thomas, Lloyd Fairbrother, Dan Way, Cory Hill, Ian Gough, Luc Jones, Angus O'Brien, Ashton Hewitt.

Stade Francais: Paul Williams; Titouan Cazedepats , Geoffrey Doumayrou (capt), Krisnan Inu ,Digby Ioane; Morné Steyn, Julien Dupuy ; Romain Frou, Zurabi Zhvania, Davit Kubriashvili, Paul Gabrillagues , Juan Cruz Guillemain, Matthieu Ugena, Mathieu De Giovanni , Nicolas Garrault.

Eilyddion: Sofiane Chellat , Zak Taulafo, Adrien Oleon, Julien Nibert, Remi Bonfils Luc Jones, Julien Tomas, Vincent Mallet, Raphael Lakafia.

Dyfarnwr: Matthew Carley (Lloegr)