Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr

Doedd gôl gynnar Gylfi Sigurdsson ddim yn ddigon i Abertawe yn Blackburn Image copyright Getty Images
Image caption Doedd gôl gynnar Gylfi Sigurdsson ddim yn ddigon i Abertawe yn Blackburn

Mae Abertawe wedi colli 3-1 ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr yn erbyn Blackburn Rovers o'r Bencampwriaeth.

Dechreuodd pethau'n wael i'r ymwelwyr pan gafodd Kyle Bartley ei anfon o'r maes wedi chwech munud yn unig.

Er hynny roedd hi'n argoeli'n dda i'r Elyrch pan sgoriodd Gylfi Sigurdsson gyda ergyd o bellter. Ond lai na dwy funud yn ddiweddarach roedd Blackburn yn gyfartal wrth i Chris Taylor ergydio i gornel y rhwyd.

Ar ôl yr egwyl roedd hi'n dalcen anoddach i'r 10 dyn ond fe ddaliodd gwyr Garry Monk eu tir am gyfnod maith tan i gyn-ymosodwr Caerdydd Rudy Gestede rwydo i'r tîm cartre ar ol 78 munud.

Yn eironig, Craig Conway, un arall o gyn-chwaraewyr yr Adar Gleision, sgoriodd y drydedd cyn diwedd y gêm.

I ychwanegu at drafferthion Abertawe cafodd Sigurdsson ei anfon o'r maes cyn y chwiban olaf am dacl flêr.