Barn y cyhoedd am y GIG yng Nghymru

Iechyd

Mae bron i hanner pobl Cymru yn meddwl bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn perfformio gystal ac yn Lloegr, tra bod 15% arall yn meddwl ei fod yn perfformio'n well yma, yn ôl arolwg barn newydd BBC Cymru.

Mae perfformiad y GIG yng Nghymru o'i gymharu ag yn Lloegr wedi bod yn destun dadl wleidyddol ffyrnig gyda gweinidogion yn San Steffan yn galw'r gwasanaeth yng Nghymru yn "is na'r safon".

Ond mae ymchwil gan ICM ar gyfer wythnos Cymru Iach BBC Cymru yn awgrymu bod 47% o bobl yn meddwl bod perfformiad y GIG yng Nghymru ac yn Lloegr "mwy neu lai yn un peth". Roedd 15% yn meddwl bod y GIG yn perfformio'n well yng Nghymru, tra bod 21% yn meddwl ei fod yn perfformio'n waeth yng Nghymru.

Gwariant

Mae darganfyddiad arall yn awgrymu bod bron i ddau draean o'r cyhoedd yng Nghymru (64%) yn credu eu bod yn cael gwerth eu harian gyda'r GIG yng Nghymru. Ychydig dros chwarter (26%) sy'n anghytuno.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dewisiadau am fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru am y GIG wedi cael ei feirniadu. Mae wedi cael ei ymosod arno gan y Ceidwadwyr yn enwedig am ddewis peidio amddiffyn gwariant iechyd i'r un hyd ag yn Lloegr a'r Alban yn y blynyddoedd yn dilyn etholiadau mwyaf diweddar y Cynulliad.

Image caption Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dewisiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r GIG wedi cael eu beirniadu

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gwario 43% o holl gyllideb Cymru ar iechyd. Mae arolwg barn Cymru Iach BBC Cymru yn awgrymu bod 48% yn meddwl bod y cydbwysedd yma'n gywir, ond mae 41% yn dweud y dylai iechyd gael mwy o arian.

Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi pwmpio cannoedd o filoedd o bunnoedd i mewn i'r cyllid iechyd i geisio ymateb i'r galwad cynyddol - wrth wneud hynny, mae wedi tynnu arian i ffwrdd o fannau eraill.

Roedd 48% o'r rhai a gymerodd rhan yn yr arolwg yn meddwl bod Llywodraeth Cymru ar fai am gymryd arian o fannau ac adrannau eraill - fel cynghorau - ond roedd 38% yn credu mai dyma'r dewis cywir.

Ariannu

Gyda phoblogaeth yn gynyddol hŷn a meddyginiaeth yn mynd yn fwy blaengar, mae hi'n debygol y bydd angen mwy o arian ar y GIG yn y dyfodol, ond mae'r cyhoedd yn ymddangos yn rhanedig o ran o ble ddylai'r arian ddod.

Mae 35% yn meddwl y dylai buddsoddiad ychwanegol i'r GIG ddod o doriadau i adrannau eraill. Mae 25% o'r gred y dylai trethi godi i ariannu'r gwasanaeth iechyd.

Dim ond 9% sy'n meddwl y dylai'r GIG dorri i lawr ar ychydig o'r gwasanaethau mae'n ei gynnig. Ond byddai 17% yn fodlon talu ar gyfer rhai gwasanaethau fel gweld meddyg teulu.

Ymhellach, byddai lleiafrif sylweddol - 39% - yn fodlon talu £10 i sicrhau y bydden nhw yn cael gweld meddyg teulu ar amser o'u dewis nhw, ond dywedodd 59% na fyddan nhw yn fodlon. Wedi dweud hyn, roedd mwyafrif ysgubol (81%) yn meddwl y dylai pobl sydd yn methu apwyntiadau doctor neu mewn ysbytai gael ei dirwyo.

Image caption Byddai 39% yn fodlon talu £10 er mwyn gwneud yn siwr y bydden nhw yn cael gweld meddyg teulu ar amser o'u dewis nhw

Vaughan Roderick, Gohebydd Materion Cymreig BBC Cymru yn dadansoddi Arolwg Iechyd ICM ar ran BBC Cymru

Y llinell rhwng bywyd ac angau, dyna ddisgrifiad David Cameron o Glawdd Offa wrth gymharu gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr.

Er mawr ryddhad i Lywodraeth Cymru efallai nid felly mae'r 1.000 o bobol gafodd eu holi gan ICM rhwng 8 Ionawr - 13 Ionawr yn gweld pethau.

Roedd 47% yn credu bod y ddau wasanaeth mwy neu lai'r un peth gyda 21% yn credu bod gwasanaeth Lloegr yn rhagori a 15% yn ffafrio'r gwasanaeth Cymreig.

Mae'n ymddangos hefyd nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn credu bod y gwasanaeth yn wynebu argyfwng ariannol. Roedd 48% o'r farn bod lefel y gwariant ar y gwasanaeth yn ddigonol a dim ond 41% yn credu bod angen gwario mwy.

Roedd 48% hefyd yn credu bod Llywodraeth Cymru'n anghywir i dorri ar wasanaethau eraill er mwyn ariannu'r gwasanaeth. Dim ond 38% oedd yn cefnogi'r polisi.

Dyw'r canfyddiad yna ddim yn debyg o boeni Llywodraeth Cymru ond fe fydd 'na bryder ynghylch y gefnogaeth gref i Gronfa Gyffuriau Canser - syniad gafodd ei gyflwyno yn Lloegr ond sy'n cael ei wrthod gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae 'na ddigon o ganfyddiadau eraill i gnoi cil yn eu cylch yn yr arolwg gyda mwyafrif clir yn cefnogi dirwyo pobl am golli apwyntiadau a chefnogaeth gadarn i'r syniad y dylid cyfyngu ar driniaeth i'r rheiny sy'n gwrthod newid arferion gwael er mwyn gwella eu hiechyd.

Mae'r arolwg yn awgrymu felly bod pobl Cymru yn fodlon ystyried newidiadau i rai agweddau o'r ddarpariaeth - ond nid i'r egwyddor sylfaenol y dylai gwasanaethau fod ar gael am ddim i bawb.

Dywedodd mwyafrif clir na fydden nhw yn fodlon talu £10 y tro er mwyn sicrhau apwyntiad gyda meddyg teulu ac os nad oes 'na gefnogaeth i newid felly mae'n annhebyg y byddai 'na groeso i unrhyw fath o ffioedd neu daliadau eraill o fewn y gwasanaeth.

Dadl gyhoeddus

Image copyright Thinkstock

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi galw am ddadl gyhoeddus ynglŷn â sut y dylai'r gwasanaeth iechyd weithio i allu ymdopi gyda'r galwad cynyddol pan fo arian yn dynn.

Dadleuodd i gael system o "ofal iechyd pwyllog" fyddai'n gweld triniaeth yn cael ei chyfyngu pe bai'n cael ei gweld o fod o ychydig o fudd, er enghraifft, cyfyngu'r nifer o gyffuriau sy'n cael eu defnyddio i drin poen neu leihau nifer y gwrthfiotigiau sy'n cael eu hargymell gan feddygon teulu.

Rhan bwysig o'r syniad yma ydi mai anghenion clinigol cleifion sydd bwysicaf pan ddaw i flaenoriaethu triniaeth y GIG ac yn ein harolwg, mae'n ymddangos bod y cyhoedd yn cytuno.

Mae'r mwyafrif, 69%, yn cytuno y dylai triniaeth ar gyfer cleifion gyda phroblemau sydd ddim yn beryg bywyd gael ei ddosbarthu ar sail angen (neu pha mor daer yw'r angen am driniaeth). Mae 29% yn meddwl y dylai cleifion oll gael eu trin yn gyfartal a disgwyl eu tro ar y rhestrau aros.

Cymhellodd Drakeford i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd yn ogystal.

Yn ein harolwg, roedd mwy na hanner (57%) yn dweud y dylai'r GIG gyfyngu neu wrthod triniaeth i'r rhai sydd yn gwrthod gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw. Ond roedd lleiafrif sylweddol (40%) o'r farn y dylai'r GIG drin pawb yn gyfartal, heb ystyriaeth i'w ffordd o fyw.

Image caption Roedd 57% yn dweud y dylai'r GIG gyfyngu neu wrthod triniaeth i'r rhai sydd yn gwrthod gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw

Canser

Un o'r gwahaniaethau mwyaf ym mholisi iechyd rhwng Cymru a Lloegr yw bodolaeth Cronfa Cyffuriau Canser yn Lloegr.

Golygai bod cannoedd o filoedd o bunnoedd o gyllideb y gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn cael ei dosbarthu'n benodol i ariannu cyffuriau canser drud sydd heb gael eu cymeradwyo yn ddigon cost-effeithiol ar gyfer defnydd ar-led yn y GIG.

Mae'r Ceidwadwyr yn dadlau bod rhai cleifion yng Nghymru dan anfantais gan nad yw'r gronfa'n bodoli yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau nad yw'r gronfa'n cael ei chefnogi gan y mwyafrif o ddoctoriaid a'i bod yn annheg am ei bod yn rhoi arian i ganser dros yr hyn sy'n cael ei roi i gleifion â chlefydau eraill.

Yn ein harolwg, fe ofynnon ni: "Yn Lloegr mae 'na gronfa benodol ar gyfer cyffuriau canser - ringfenced ydi'r term Saesneg. Yng Nghymru mae cyffuriau canser yn cael eu hariannu yn yr un ffordd ag afiechydon eraill. Ydach chi'n credu y dylai arian ar gyfer canser gael ei warchod?"

Roedd y rhan fwyaf o bobl (72%) yn meddwl y dylai arian ar gyfer canser gael ei warchod.

Mewn ymateb, dywedodd Lywodraeth Cymru: "Mae gennym ni bryder ynglŷn â geirio'r cwestiwn yma. Nid yw'n gwneud yn glir bod y gronfa benodol ar gyfer cyffuriau canser yn Lloegr yn anfanteisiol i ariannu cyffuriau ar gyfer clefydau eraill, nac yw'n nodi bod gwariant ar ganser yn uwch fesul pen yng Nghymru nac yn Lloegr.

Mae'r ffaith bod y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn cefnogi cyffuriau sydd heb gael eu cymeradwyo gan y Sefydliad dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar gyfer defnydd arferol yn golygu nad yw'r cwestiwn yn rhoi digon o wybodaeth i'r atebwyr. Mae gofyn yn syml os dylai 'arian ar gyfer canser gael ei warchod' yn orsymleiddiad enfawr o'r pwnc."

Image copyright SPL
Image caption Roedd 72% o'r bobl gafod deu holi yn meddwl y dylai arian ar gyfer canser gael ei warchod

Bodlon?

Ond cwestiwn pwysig ydi pa mor fodlon ydi'r cyhoedd yng Nghymru gyda'r ffordd mae'r GIG yn cael ei redeg yma. Dywedodd hanner y bobl (50%) eu bod yn fodlon tra doedd lleiafrif sylweddol - bron i draean (32%) ddim.

Mewn ymateb i'r arolwg ar y cyfan, dywedodd Llywodraeth Cymru:

"Mae'r arolwg unwaith eto yn dangos bod pobl ledled Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu'r ffordd rydyn ni'n rhedeg y GIG, sydd yn gwneud yn rhagorol i ddarparu gofal ardderchog, am ddim i bawb yng Nghymru. Mae ymchwil yn barhaol yn dangos bod pobl ledled Cymru â hyder yn y GIG."

Cafodd sampl o 1.004 o oedolion dros 18 eu cyfweld gan ICM Research. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal dros y ffôn ar draws Cymru rhwng 8 ac 13 Ionawr 2015. Mae'r canlyniadau wedi'u pwyso i broffil holl oedolion. Mae ICM yn aelod o Gyngor Arolygon Barn Prydain ac yn cadw at ei reolau.

Ar y 4edd o Fedi 2015, fe wnaeth Bwrdd Safonau Ymchwil Farchnata (BSYF) y Gymdeithas Ymchwil Farchnata gynnal cwyn gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â geiriad cwestiwn am ariannu cyffuriau canser mewn pôl piniwn ICM a gomisiynwyd gan BBC Cymru.

Dyfarnodd y BSYF fod y cwestiwn am ariannu cyffuriau canser yn arwain y sawl oedd yn cymryd rhan i fynegi barn.