Leighton Andrews yn gwrthod cynigion i uno cynghorau

Leighton Andrews

Mae Leighton Andrews wedi gwrthod pob un o'r tri chynnig i uno cynghorau yng Nghymru yn wirfoddol.

Roedd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn ystyried cynlluniau i uno Conwy a Sir Ddinbych, Torfaen a Blaenau Gwent, a Phen-y-bont a Bro Morgannwg.

Ond ddydd Mawrth dywedodd nad oedd yr un o'r cynigion yn cyrraedd y meini prawf er mwyn symud ymlaen.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Andrews ei fod yn croesawu arweinyddiaeth yr awdurdodau a'u "parodrwydd i geisio siapio'r dyfodol".

Ond dywedodd nad oedd yr un cynnig yn cyrraedd y meini prawf gafodd eu gosod yn y prosbectws.

"Mae'n siomedig i mi nodi, ar sail yr asesiad hwn, nad wyf wedi fy argyhoeddi bod unrhyw un o'r Datganiadau hyn o Ddiddordeb yn bodloni'r meini prawf yn ddigonol ar gyfer symud ymlaen i baratoi Cynnig Uno Gwirfoddol llawn," meddai.

"Er bod rhai agweddau cadarnhaol ar bob Datganiad o Ddiddordeb, roedd y Prosbectws yn glir ynghylch yr hyn fyddai'n ofynnol."

Ychwanegodd y bydd yn ysgrifennu at bob un o'r arweinwyr yn fuan i nodi rhesymau manylach dros bob penderfyniad.

Cyhoeddwyd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) ddydd Llun, sy'n cynnwys darpariaethau i alluogi Uno Gwirfoddol y byddai angen cytuno arnyn nhw erbyn 30 Tachwedd 2015.

Yn ôl Mr Andrews, bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'r darpariaethau hyn wrth i'r Mesur fynd rhagddo.

'Siomedig'

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ei fod yn siomedig gyda phenderfyniad y gweinidog.

Dywedodd Neil Moore y byddai'n "ystyried pa opsiynau sydd ar ôl i Fro Morgannwg" ac ystyried sut i "gyrraedd anghenion" pobl yr ardal orau.

Mewn datganiad ar y cyd, mae cynghorau Conwy a Sir Ddinbych wedi mynegi eu siom ynghylch y penderfyniad.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans bod y penderfyniad yn syndod.

"Roeddem wedi ymrwymo i ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer uno gwirfoddol a byddai hyn wedi edrych ar faterion megis ymgynghoriad llawn a gwaith i alinio gwasanaethau, yn barod ar gyfer awdurdod newydd.

"Rydym yn teimlo bod yna achos cryf iawn ar gyfer uno a hwn yn bendant oedd y dull cywir."

Ymateb gwleidyddol

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod y llywodraeth yn ceisio "anwybyddu llywodraeth leol" a pharhau gyda'i chynlluniau eu hunain "beth bynnag yw'r gost".

Ychwanegodd llefarydd y blaid ar lywodraeth leol, Peter Black AC, bod angen "hyblygrwydd" yn y broses, i sicrhau na fydd angen ail-wneud y broses ymhen 20 mlynedd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders, bod y penderfyniad "syfrdanol" yn ergyd fawr i'r cynghorau sydd wedi cynnig i uno yn wirfoddol.

Fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Rhodri Glyn Thomas, alw ar y gweinidog i fod yn glir gyda'r Cynulliad am "beth yn union yw ei gynllun".

"Mae wedi gwrthod hyd yn hyn, ond mae'n amhosib i'n cynghorau symud ymlaen os yw'n gwrthod eu cynigion heb ddweud beth yw ei fwriad."

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ACau y byddai'r llywodraeth yn creu map ei hun o'r awdurdodau newydd, os nad oes cytundeb trawsbleidiol erbyn yr haf.

Straeon perthnasol