A chithau, Carmel

Nid fi yw'r person iawn i ysgrifennu'r darn bach yma ond fe ddylai rhywun ysgrifennu rhywbeth ac, hyd a gwelaf i, does neb wedi gwneud.

Wythnos ddiwethaf datgorfforwyd eglwys Carmel, Gwauncaegurwen. Roedd sych-bydredd wedi ei ganfod yn yr adeilad ac roedd datrys y broblem yn ormod o her i'r gynulleidfa fechan oedd yn weddill. Caewyd y drysau felly.

Carmel oedd yr olaf o'r drindod o gapeli oedd yn cynnal Annibynia Cwmgors a'r Waun, cornel fach o Sir Forgannwg oedd yn gadarnle nid yn unig i'r Annibynwyr ond i'r iaith Gymraeg. Cyfrannodd yr ardal fechan hon yn helaeth i fywyd Cymru a'i diwylliant. Dyma i chi ardal Eic a Huw Llywelyn Davies, yr actores, Siân Phillips, beirdd fel Dafydd Rowlands a Meirion Evans, y chwaraewr rygbi Gareth Edwards a llwyth o athrawon a gweinidogion yn eu plith y diweddar, annwyl Eifion Powell. Yno y mae gwreiddiau dau aelod cynulliad hefyd - Gwenda Thomas a Keith Davies.

Mewn un ystyr dyw'r hyn ddigwyddodd yng Nghwmgors a'r Waun yn ddim gwahanol i weddill Cymru. Llosgwyd Hen Garmel i'r llawr gan fandaliaid ddegawdau yn ôl. Doedd dim adnoddau i'w ail-godi ac erbyn hyn mae'r safle a'r fynwent yn diflannu o dan ddrain ac ysgall. Caeodd Tabernacl yn 2010 prin ganrif ar ôl ei eni yn awyrgylch crasboeth diwygiad 04-05. Nawr mae Carmel hefyd wedi mynd.

Nawr, mae p'un ai ydy taith Cymru o fod yn un o'r gwledydd mwyaf crefyddol yn y byd i un o'r lleiaf yn beth da neu'n beth drwg yn fater o farn. Serch hynny fe fyddai'n llawer haws dadlau ei bod hi'n beth da pe bai bywyd Cwmgors a'r Waun yn byrlymu y tu hwnt i furiau'r capeli gweigion.

Nid felly mae pethau. Rwy'n meddwl fy mod yn gywir wrth ddweud mai dim ond un o'r hanner dwsin o dafarnau sydd o hyd yn agored. Un neu ddwy o siopau sy'n weddill a chafodd neuadd y glowyr, "Hall y Waun" yn y dafodiaith leol, ei dymchwel blynyddoedd yn ôl. Mae Ysgol Gynradd Cwmgors yn debyg o gau ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bresennol.

Anodd yw dod i unrhyw gasgliad ond bod hanner canrif o ymdrechion i adfywio'r economi a diogelu'r gymuned wedi methu yn y ddau bentref bach yma.

Yn ffodus mae llawer o'r hanes ar gof a chadw. Mae cynnyrch eisteddfodau'r ddau bentref, cyfrolau hanes lleol a bywgraffiadau yn agor drysau ar gymuned fywiog, diddorol a chyfan gwbl Gymraeg.

Rhain yw'r unig ddrysau sydd ar gael bellach. Mae drws Carmel wedi ei gau.