Tesco: 137 yn colli eu swyddi

Tesco Image copyright Reuters

Mae Tesco wedi cadarnhau y bydd tair siop yn cau yng Nghymru yn rhan o gynlluniau'r cwmni i ad-drefnu.

Bydd siop ym Mharc Siopau Gwent, Tredegar, un yng Ngwersyllt, Wrecsam, ac un yng Nghaerffili yn cau a 137 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Mae Tesco'n dweud bod y cyngor ymgynghori ffurfiol wedi cychwyn fore Mercher ond mae'r gweithwyr wedi clywed eu bod nhw'n wynebu cael eu diswyddo.

Yn Wrecsam mae'r siop yn cyflogi 65 o weithwyr, y siop yng Nghaerffili yn cyflogi 52 ac mae 20 o weithwyr yn y siop yn Nhredegar.

Bydd y siopau yn Wrecsam a Chaerffili yn cau ar 4 Ebrill a bydd y siop yn Nhredegar yn cau ar 15 Mawrth.

Bydd mwy na 2,000 o weithwyr ar draws y DU yn colli eu gwaith wrth i 43 o siopau gau.