Arloesi meddygol Cymru: 'Yr amser gorau'

labordy prifysgol Caerdydd

Dyma'r "adeg orau erioed" ar gyfer datblygu meddyginiaethau a thechnolegau meddygol newydd yng Nghymru, yn ôl un o'r gwyddonwyr amlyca' yn y maes.

Lai na thair blynedd ers i banel o arbenigwyr gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i drio ffynnu'r diwydiant gwyddorau bywyd yma, mae prifysgolion Cymru bron â dyblu'r lefel o ymchwil yn y maes.

Mae'r sector bellach yn cyflogi 11,000 o bobl yng Nghymru, cynnydd o dros 10% yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwetha', yn ennill cyflogau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd Cymreig mewn dros 350 o gwmnïau.

Cymru hefyd yw'r unig wlad yn y byd sydd â chronfa arbennig o £100 miliwn er mwyn denu busnesau yn y maes i ail-leoli yma.

Yn ôl yr Athro Chris McGuigan, o Brifysgol Caerdydd - un o'r arbenigwyr sydd wedi bod yn cynghori'r llywodraeth - dyma'r "adeg orau erioed i fod ynghlwm â'r gwyddorau bywyd yng Nghymru".

"Yn ystod fy ngyrfa dw i wedi darganfod tri chyffur newydd - a ma' hynny'n gam go anodd. Ar eu hanterth, ro'dd y cyffuriau rheiny werth $3 biliwn. A na'th yr holl arian yna adael Cymru oherwydd doedd yr isadeiledd ddim gyda ni - doedd gyda ni ddim cronfa, dim rhwydwaith o fusnesau oedd yn barod i fuddsoddi."

"Bellach, ma' hynny i gyd yn ei le.

"Fy mreuddwyd i yw y bydd y darganfyddiad enfawr nesa' yn aros yng Nghymru, yn creu mwy o swyddi yng Nghymru a dwi'n hyderus iawn, iawn am hynny."

100 astudiaeth

Y cam cynta' gydag unrhyw ddatblygiad yw'r gwaith ymchwil ac mae Rhwydwaith Cenedlaethol Gwyddorau Bywyd, prosiect £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn gobeithio ariannu 100 astudiaeth mewn prifysgolion ar draws Cymru dros y pum mlynedd nesa.

Yn ei flwyddyn gynta', mae'r rhwydwaith wedi denu 200 o gynigion ac wedi ariannu 56 prosiect.

Yn y cyfamser, mae adeilad pwrpasol newydd ym Mae Caerdydd - yr Hwb Gwyddorau Bywyd - sy'n trio troi syniadau ac ymchwil yn fusnesau llwyddianus - wedi gweld pedair gwaith y nifer o ymwelwyr yr oedden nhw'n eu disgwyl mewn blwyddyn o fewn eu chwe mis cynta'.

Y syniad yw dod ag ysgolheigion, busnesau, a chwmnïau sy'n darparu cymorth gweinyddol at ei gilydd dan un to.

Image caption Mae'r Athro Chris McGuigan yn hyderus y daw 'na lwyddiant yn sgil y buddsoddiad yng Nghymru

Yn ôl Ian Barwick, Prif Swyddog Gweithredu'r Hwb: "Ry'n ni wedi targedu gwahanol grwpiau ar bwrpas, o gwmnïau bychain, i gwmnïau mawrion, i bobl sy'n darparu gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol, i brifysgolion, meddygon a byrddau iechyd. Maen nhw i gyd yma - mae'n un crochan o dalent."

Hyd yma, mae 60 corff wedi sefydlu presenoldeb yn yr Hwb. Mae un ohonyn nhw, BioVetas Capital, yn ariannu datblygiad cyffur newydd posib ar gyfer canser y fron, gan ddefnyddio gwaith ymchwil o Brifysgol Caerdydd.

Yn ôl cadeirydd y cwmni, Gabriele Cerrone, buddsoddwr o'r Eidal, mae ymdrechion Cymru ym maes gwyddorau bywyd wedi creu argraff arno.

"Ro'n i'n awyddus iawn i ddod yma a sefydlu yn yr Hwb oherwydd dwi'n credu ei fod e'n mynd i fod yn lle da iawn i ddarganfod technolegau newydd ac ariannu gwyddonwyr da," meddai.

Hir, drud ac ansicr

Ond mae darganfod cyffuriau newydd yn broses hir, drud ac ansicr.

Yn ôl Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, ar gyfartaledd mae'n cymryd 13 o flynyddoedd a dros £1.1bn i ddatblygu un moddion neu driniaeth newydd ac mae'r mwyafrif helaeth o ymdrechion yn methu.

Mae rhai felly'n cwestiynu a all Lywodraeth Cymru gyfiawnhau gwario cymaint ar ddiwydiant sy'n llawn risg.

Ond yn ôl yr Athro Marc Clement, Cadeirydd Athrofa Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed, fe allai'r sector arwain at dwf sylweddol yn economi Cymru.

"Ni fel Cymry ddim yn gyffyrddus iawn â chymryd risg. Ond heb risg, fydd 'na ddim elw.

"Mae analysis o'r Athrofa Gwyddor Bywyd yma yn Abertawe wedi dangos fod yr adeilad a'r gwaith yma dros y ddegawd d'wetha wedi talu'r buddsoddiad yn ôl pum gwaith eisoes yn y cyflogau, y trethi, y swyddi mae 'di creu yn y gymuned.

"Yn bendant dyma'r amser gorau i'r sector yng Nghymru. Mae'r gwaith caib a rhaw wedi 'neud ond ma' rhaid sefydlu'r holl beth nawr am genhedlaethau i ddod."