Cynghorau Cymru: Ble nesaf?

Leighton Andrews
Image caption Mae penderfyniad Leighton Andrews i wrthod y cynigion i uno wedi denu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau

Mae hi dros flwyddyn ers i gynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol ynghyd ag unigolion o fywyd cyhoeddus a busnes gyhoeddi adroddiad am ddyfodol ein cynghorau.

Ers hynny rydyn ni wedi clywed son yn gyson am Gomisiwn Williams a'i gynllun i leihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru i ddeuddeg neu lai.

Ond yn gynyddol, mae'n ymddangos yn lai a llai perthnasol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i uno cynghorau.

Mae'r Gweinidog Leighton Andrews wedi gwrthod tri chais gwirfoddol gan gynghorau i uno - ac un o'r rheini'n rhan o'r map gafodd ei argymell gan y Comisiwn.

  • Fe wnaeth Comisiwn Williams awgrymu bod nifer cynghorau Cymru yn cael eu torri i 12 neu 10.
  • Y cynghorau oedd wedi cynnig uno oedd Conwy a Sir Ddinbych, Torfaen a Blaenau Gwent, a Phen-y-bont a Bro Morgannwg.
  • Dywedodd Leighton Andrews nad oedd yr un o'r cynigion yn cyrraedd y meini prawf.

'Tu hwnt' i Williams

Ac er fod Leighton Andrews dal yn dweud ei fod yn gweithio ar sail y map yna, mae e hefyd wedi dweud bod cynlluniau presennol y Llywodraeth yn symud "tu hwnt" i Williams.

Felly os nid map Williams - be' fydd patrwm cynghorau Cymru yn y dyfodol?

Cynllun chwe chyngor sy'n cael ei ffafrio gan rai "ffigyrau blaenllaw" yn ei blaid meddai Leighton Andrews.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw am glywed syniadau'r pleidiau eraill. Dywedodd y byddai'n eu gwahodd i gael trafodaethau, ond prin yw'r chwant am hynny ymhlith y pleidiau sy'n credu mai cyfrifoldeb Llafur yw cynnig cynllun.

Mae 'na son am 'fap' erbyn yr haf - ond mae'r broses hyd yma'n awgrymu bod cyrraedd y nod o sefydlu rhai o'r cynghorau newydd erbyn 2018 yn uchelgeisiol.

Straeon perthnasol