Bachgen ysgol yn euog o ddwyn oddi wrth fenyw 90 yn Abertawe

Llys y Goron Abertawe
Image caption Roedd yr achos yn Llys y Goron Abertawe

Mae bachgen ysgol yn euog o ddwyn oddi wrth fenyw 90 oed gafodd strôc o fewn oriau i'r ymosodiad ac a fu farw yn ddiweddarach.

Clywodd y llys fod y bachgen 16 oed, nad oes modd ei enwi, wedi yfed litr o fodca cyn galw yng nghartre Jean Thyer yng Nghilá, Abertawe, gan honni ei fod ar goll.

Rhedodd i ffwrdd gyda phwrs y ddynes wrth iddi ffonio cymydog.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Chwefror 13.