"Dieithr yn ein pentre ein hunen"

Beti George

Cefn gwlad yw'r thema yr wythnos hon yn y gyfres 'Cymru ar Ffilm' ar S4C. Unwaith eto, mae'r ddarlledwraig Beti George wedi bod yn pori trwy archifau ffilm BBC Cymru i ddarganfod sut mae ein cymdeithas wedi newid.

Yn ei blog i Cymru Fyw i gyd-fynd â'r gyfres, mae Beti yn trafod ei theimladau am sefyllfa cefn gwlad Cymru - ddoe a heddiw.

Paradwys?

Byw yn y wlad - haws dweud na g'neud yn fy marn i. Roedd y wlad yn baradwys pan roeddwn i'n tyfu lan. Ond o weld beth sy' wedi digwydd i bentre bach Coed-y-bryn, y gwir yw os nad y'ch chi'n ifanc ac yn iach a bod car 'da chi, yna mae'n amhosib.

A'r hyn sy'n mynd fel saeth i f'enaid i yw clywed y frawddeg - "Ryn ni'n teimlo'n ddieithr yn ein pentre ein hunen". Yr euogrwydd wedyn o wybod mai'r ffaith fy mod i a'm cyfoedion wedi gadael sy'n gyfrifol am y newid sy' wedi bod.

Roedd 'na arwyddion clir yn y 60au bod yr hen ffordd o fyw yn dechrau diflannu, a dyna gewch chi yn ail raglen y gyfres archif sy'n datgelu rhai o drysorau'r BBC am y tro cynta' ers iddyn nhw gael eu darlledu yn y 60au a'r 70au. Ac maen nhw mor ddiddorol. Mae hi fel ddoe i fi wrth gwrs!

Image caption Dafydd Edwardes yn torri mawn gydag arddeliad rhywun hanner ei oed

Yr hen ffordd Gymreig o fyw

Y cymeriad Dafydd Edwardes o dop Ceredigion - yn dal at yr hen ffordd - yn dal i losgi mawn. Roedd hi'n cymryd rhyw dridie iddo i dorri'r mawn i gadw'r tân i fynd am flwyddyn. Fyse fe ddim yn cael g'neud hynny heddiw.

Difyr hefyd oedd sylwi bod y gohebydd yn rhyfeddu bod yr hen Ddafydd mor sionc ei osgo ag yntau dros oed yr addewid!

Braidd y gallwch chi deimlo'r ing yng nghyflwyniadau'r gohebwyr wrth iddyn nhw adrodd am y llif i mewn ac allan o gefn gwlad. T Glynne Davies er enghraifft a'i bortread o Nant Peris.

"Bob tro y mae un o'r trigolion yn mudo mae pobl eraill - pobl wahanol - yn fodlon cymryd ei le".

Harri Gwynn yn treulio prynhawn mewn "cymhortha" - y bobl oedd yn dod o bell ac agos i helpu ffarmwr ar ddiwrnod dyrnu. Ninne'n clywed bod y ffarmwr hwnnw yn dechrau colli "adnabyddiaeth o'r cymdogion".

Image caption T Glynne Davies yn holi Miss Galloway, un o newydd ddyfodiaid Nant Peris

'Y Fro Gymraeg'

Emyr Llewelyn yn lansio ymgyrch Adfer i sefydlu Bro Gymraeg. Yn ôl Emyr byddai'n rhaid dychwelyd o'r trefi Seisnig a gwladychu'r 'Fro Gymraeg' a byw'n bywydau yn gyfan gwbl drwy'r iaith Gymraeg.

"'Dyw Cymro byth yn rhydd os yw'n edrych ar deirawr o deledu Saesneg bob nos. Ai cyfenwau Seisnig, dillad, arferion a moesau Seisnig yw'r rhain? Os felly dyw e ddim yn ddigon da i'r Fro Gymraeg".

Ymateb swrth y cynghorydd Hywel Heulyn Roberts oedd "'Dw i ddim eisiau byw mewn caetsh mwnci!".

'Dw i wrthi nawr yn paratoi cyfres ar y Cymry Newydd i BBC Radio Cymru - sgwrsio â'r Saeson sy' wedi dod i fyw yma ers y 60/70au. Mae dros chwarter ein poblogaeth ni erbyn hyn wedi eu geni yn Lloegr. Ond dy'n ni ddim yn or-hoff o drafod hynny a'r effaith ar ein cymunedau ni.

Ond tybed shwd olwg fyddai ar ein cefn gwlad ni petai breuddwyd Emyr Llew wedi ei gwireddu? Dim ond gofyn!

Cymru ar Ffilm: Byw yn y Wlad, S4C, 19:30, Nos Sul 1 Chwefror. Gallwch wylio rhaglenni y gyfres yn ôl ar iPlayer ac S4C Clic.

Bydd llais Beti George hefyd i'w glywed ar Beti a'i Phobl, 10:00, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 1Chwefror.

Image caption Roedd 'na newidiadau mawr yng nghefn gwlad Cymru yn y 70au

Straeon perthnasol