Crefydd, y Gymraeg a Zonia Bowen

Zonia Bowen Image copyright Zonia Bowen

Saesnes o Swydd Efrog yw Zonia Bowen. Ond yn 1967 fe wnaeth hi safiad dros yr iaith Gymraeg drwy herio polisi Saesneg Sefydliad y Merched (y WI) a sefydlu mudiad Cymraeg i ferched Cymru - Merched y Wawr.

Mae'r stori am sefydlu'r mudiad gyda merched y Parc ger y Bala yn cael ei dweud yn hunangofiant Zonia Bowen, 'Dy bobl di fydd dy mhobl i' (Y Lolfa).

Mae hi hefyd yn egluro yn y llyfr pam wnaeth hi ymddiswyddo fel llywydd y mudiad ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth.

Y tro yma roedd hi'n gwneud safiad ar sail crefydd, neu ddiffyg crefydd.

Roedd Zonia North, fel roedd hi cyn priodi, wedi ei magu'n ddi-grefydd.

Dywedodd o'r cychwyn na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad gydag enwad crefyddol na phlaid wleidyddol "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" ac fe gytunai'r aelodau a chyngor cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr ar hynny.

Roedd yn cael ei ddisgrifio fel mudiad seciwlar ar y dechrau.

"Achosodd yr holl ddigwyddiad gryn anhapusrwydd i mi," meddai Zonia yn ei hunangofiant.

Anghydfod

"Hyd heddiw, dwi ddim yn credu bod aelodau cyffredin Merched y Wawr - hyd yn oed merched y Parc, Bala ble sefydlwyd y gangen gyntaf - yn gwybod yn iawn beth oedd gwir asgwrn cynnen yr anghydfod na fy rhesymau dros ymddiswyddo. O'r diwedd, dyma fi'n cael dweud fy ochr i o'r stori.

"Yn ogystal â sefydlu mudiad a fyddai'n dangos parch i'r iaith Gymraeg yn ei holl weithgareddau, roeddwn wedi rhagweld y byddai Merched y Wawr yn gymdeithas a fyddai'n parchu gwahaniaethau barn grefyddol ei aelodau, heb roi bendith swyddogol ar y naill yn fwy na'r llall," meddai "… ond cefais fy siomi.

"Os oedd Merched y Wawr yn mynnu rhoi bendith swyddogol ar gred rhai aelodau yn fwy nag ar gred aelodau eraill, a thrin yr olaf fel aelodau ailddosbarth, doeddwn i ddim yn fodlon eu bod nhw'n gwneud hynny yn fy enw i."

Ond teimla fod "camargraff" wedi ei roi ar y pryd mai'r rheswm dros ei ymddiswyddiad fel Llywydd Anrhydeddus oedd ei bod yn gwrthwynebu cynnal gwasanaeth crefyddol yn ystod penwythnosau cenedlaethol y mudiad.

Doedd hynny ddim yn wir, meddai.

Dywedodd Zonia wrth BBC Cymru Fyw mai ei gwrthwynebiad oedd fod rhai aelodau wedi "defnyddio llwyfannau a threfniadau swyddogol y mudiad i hyrwyddo eu crefydd hwy [Cristnogaeth] a rhai pobl eraill yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cau allan o rai o'r cyfarfodydd o'r herwydd."

Mae cyfansoddiad y mudiad heddiw yn dweud ei fod "yn fudiad gwladgarol, yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol."

Mae Zonia Bowen yn egluro'r digwyddiadau a'i phryderon ar y pryd yn fanwl yn ei chyfrol.

Mae hi hefyd yn datgelu nad oedd hi'n disgwyl i'r mudiad bara', hyd yn oed yr adeg hynny: "Sylweddolais fod Merched y Wawr yn ymateb i'r angen a oedd yn bodoli ar y pryd, ond y byddai angen mudiad o fath arall o bosibl yn y dyfodol, a byddai'n rhaid derbyn hynny.

"Nid y mudiad ei hun a oedd yn bwysig ond y math o waith roedd yn gallu ei gyflawni tuag at ddyfodol yr iaith Gymraeg a'i ffyniant ar dafodau mamau a merched o bob oed," meddai.

'Mwy na Merched y Wawr'

Ond mae hi hefyd yn awyddus i ddweud bod mwy i'w hunangofiant na sôn am Ferched y Wawr yn unig.

Image copyright Zonia Bowen

Mae hi'n amlwg o'r gyfrol ei bod wedi torri ei chwys ei hun o'r dechrau a mynd ati i ddysgu Cymraeg, cyn bod sôn am wersi Cymraeg i oedolion, yn fuan ar ôl dod i'r Brifysgol ym Mangor i astudio Ffrangeg.

Pan sylweddolodd fod y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn siarad Cymraeg, a theimlo "allan ohoni" oherwydd hynny, fe ddysgodd am ei bod "eisiau bod yn rhan o bethe".

"Dwi'n credu mai dyna be' sy'n bwysig heddiw, bod pobl ddi-Gymraeg eisiau bod yn rhan o'r bywyd Cymraeg felly mae fyny i'r Cymry wneud y bywyd Cymraeg mor ddiddorol bod pobl ishe bod yn rhan o hynny," meddai.

"Mae'r Cymry yn rhy dueddol o roi mewn a dechre siarad Saesneg os bydd grŵp o bobl i gyd yn siarad Cymraeg ond un.

"Ond pe bai fy ffrindiau ddim wedi parhau i siarad Cymraeg falle na faswn i wedi mynd ati fy hunan i ddysgu Cymraeg. Felly dwi'n teimlo ei bod hi fyny i'r Cymry Cymraeg eu hunain," meddai.

Yn wraig i'r diweddar Brifardd Geraint Bowen, mae hi hefyd wedi cyhoeddi llyfrau yn Gymraeg - am yr iaith Lydaweg a Dyneiddiaeth yn eu plith, a chyfrol sy'n cael ei hystyried yn awdurdod ar hanes Gorsedd y Beirdd gyda'i gŵr, oedd yn Archdderwydd rhwng 1979 a 1981.

Facebook, Plu a'r Bandana

Heddiw fe allai fod yn fwy adnabyddus i genhedlaeth iau fel nain i aelodau'r band gwerin, Plu, a thri o aelodau'r Bandana.

Image caption Elan, Marged a Gwilym o'r band Plu: rhai o wyrion Zonia a Geraint Bowen

O'i chartref ger Caernarfon, a hithau'n 88 oed, mae hi'n dal i gymryd diddordeb yn y byd o'i chwmpas drwy ddefnyddio Facebook ac e-bost.

"Dwi'n credu bod e'n cadw rywun i wybod sut mae pobl yn meddwl heddiw," meddai.

"A'r un peth efo canu pobl ifanc, dwi'n gwybod enwau a hanes y gwahanol grwpiau sy'n bodoli heddiw ac yn eu dilyn nhw ar y radio a theledu - mae'n cadw fi gyda'r oes yma!"

'Dim label'

Mae hi'n cael ei chysylltu gyda'r Dyneiddwyr am iddi ysgrifennu llyfr i blant ysgol am y mudiad ac, unwaith eto oherwydd ei hangerdd i sicrhau bod y Gymraeg yn hawlio ei lle, cafodd ei hun yn ysgrifennydd Cyngor Dyneiddwyr Cymru.

Ond dydi hi ddim yn galw ei hun yn Ddyneiddiwr.

"Fel dwi'n weud yn fy llyfr," meddai, "dwi ddim yn licio sticio labeli arnaf fi fy hunan ond dwi'n credu yn y rhan fwyaf o bethau mae Dyneiddwyr yn credu ynddyn nhw ac yn eu cefnogi nhw.

"Ond mae cymaint o eiriau fel Dyneiddwraig, neu rydd-feddyliwr neu anghredadyn ac anffyddiwr a phethe' felly. Wel, dwi'n fodlon eu derbyn, bod rhywun yn galw fi yn un o'r rheiny, ond dwi ddim yn sticio label arnaf fi fy hunan, fy mod yn credu beth mae pob un sy'n gwisgo'r label yn ei gredu."

Mae'n debyg mai rhydd-feddyliwr (freethinker) yw'r disgrifiad gorau ohoni meddai, os oes rhaid rhoi label.

Image copyright Zonia Bowen
Image caption Zonia gyda'i diweddar ŵr, Geraint Bowen

Ond does ganddi ddim gwrthwynebiad i neb arddel unrhyw grefydd.

Roedd hi hyd yn oed yn mynd i'r capel pan oedd hi'n byw yn y Parc, er mwyn cymryd rhan yn y gymdeithas. A "chytuno i anghytuno" mae hi gyda'i ffrind agos o'r pentref sy'n efengylwraig.

Ond yn bersonol, mae'r sefyllfa'n glir iddi hi ers ei dyddiau coleg pan gafodd sylweddoliad fod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg dyn, a'r prif reswm roedd pobl yn credu ynddynt oedd dylanwad y gymdeithas o'u cwmpas."

Yn groes i'r graen

O ystyried ei bod wedi byw bywyd cyhoeddus, syndod ydy darganfod ei bod hi'n berson swil iawn, "rhy swil i agor fy ngheg, rhy swil i wneud dim" pan oedd hi'n ifanc.

Mae hi'n teimlo, meddai, ei bod wedi gorfod bod yn berson cyhoeddus, yn groes i'r graen, a bod dyletswydd arni i siarad: "Os ydych chi'n teimlo'n gryf dros rywbeth 'dych chi'n dueddol o siarad allan fwy nag os nad ydych chi ddim."

Doedd dim bwriad ganddi meddai i wneud llawer o'r pethau sydd wedi digwydd yn ei bywyd - sefydlu Merched y Wawr, dysgu Llydaweg, siarad dros Ddyneiddiaeth yng Nghymru - fe wnaethon nhw 'ddigwydd' am fod pobl wedi gofyn iddi.

A doedd ganddi ddim bwriad i gyhoeddi hunangofiant chwaith, meddai.

Awydd i 'sgrifennu hanes y teulu er mwyn i'w phlant wybod pwy oedd eu cyndeidiau oedd ganddi, yn eu mysg daid Zonia â'r enw gwych, Blackburn Beaumont.

Er mai hanes personol ydy 'Dy bobl di fydd fy mhobl i' i raddau helaeth - a thrwy ei gwaith i gyd, roedd Zonia'n fam brysur oedd yn magu pedwar o blant - mae hi hefyd wedi croniclo llawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru yn hanner ola'r 20fed ganrif.

Yn eu plith frwydr yr iaith Gymraeg i hawlio ei lle - "brwydr fydd yn parhau am byth" meddai.

Ac efallai mai'r ferch swil o'r tu hwnt i'r ffin yn Heckmondwike, Swydd Efrog, oedd yn y sefyllfa orau i weld y frwydr honno gliriaf.

Mae 'Dy bobl di fydd fy mhobl i' yn cael ei lawnsio ddydd Sadwrn, 7 Chwefror, am 12:00 yn Palas Print, Caernarfon.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.