Beth yw'r utgorn glywai'n seinio?

Yn ôl 1973 rwy'n cofio mynd i gyngerdd yn hen sinema'r Capitol yng Nghaerdydd. Does gen i ddim cof o bwy oedd yn perfformio ond rwy'n sicr mae hwnnw oedd y tro cyntaf i mi weld y faner las a chylch o sêr arni sydd bellach yn faner i'r Undeb Ewropeaidd. "Fanfare for Europe" oedd enw'r gyngerdd ac roedd hi'n o gyfres o ddigwyddiadau am ddim a drefnwyd i ddathlu'r ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd neu'r 'farchnad gyffredin' ar lafar gwlad.

Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn teimlo'r angen i gynnal digwyddiadau o'r fath yn arwydd o ba mor rhanedig oedd y farn gyhoeddus ac fe'u trefnwyd gan weinidog ifanc brwdfrydig. Rhywbeth Thatcher oedd ei henw hi, os cofiaf yn iawn!

Mae'n werth cofio bod gwleidyddion yr asgell dde ymhlith y mwyaf brwd dros ymuno ac Ewrop yn ôl yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Roedd pobol y chwith yn llawer mwy amheus. Pan ddaeth hi'n refferendwm yn 1975 ymgyrchu dros bleidlais 'na' y gwnaeth y rhan fwyaf o'r undebau, nifer fawr o aelodau Llafur ar lawr gwlad, y mwyafrif o bosib, a thrwch aelodau Plaid Cymru.

Mae pob un blaid bron wedi cael cyfnodau o Euro-scepticiaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf. Y Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr yw'r eithriad. Erbyn hyn mae'r sefyllfa mwy neu lai'n ddrychddelwedd o'r hyn oedd hi hanner canrif yn ôl gyda'r chwith yn bleidiol i'r Undeb a'r dde'n amheus.

Gellir gosod dyddiad ar y newid yn weddol hawdd. Fe ddigwyddodd ym Medi 1988 pan wnaeth Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jacques Delors, annerch cynhadledd y TUC gan amlinellu ei weledigaeth o undeb gymdeithasol fyddai'n diogelu hawliau gweithwyr ac yn cynnal y gwan. O fewn wythnosau roedd trefnydd y ffanfer ar gefn ei cheffyl yn Bruges o bobman yn lambastio nid yn unig Delors a'i weledigaeth ond yr holl brosiect Ewropeaidd.

Mae'r ddwy araith a'i heffeithiau yn atseinio hyd heddiw ond rwy'n amau efallai y gallai 'na fod newid ar droed.

Yr hyn sy'n gwneud i fi feddwl hynny yw buddugoliaeth Syriza yn etholiadau Gwlad Groeg. Mae'n anodd gweld y fuddugoliaeth honno fel unrhyw beth ond protest yn erbyn cyfundrefn Ewropeaidd oedd yn gweithredu er lles y bobl fawr ar draul y bobl fach. Dyna oedd yr union fath o Ewrop yr oedd y chwith ym Mhrydain yn ofni er talwm - Ewrop wahanol iawn i weledigaeth Delors.

Dydw i ddim am awgrymu bod pleidiau'r chwith am droi'n Euro-specticiaid fory nesaf ond mae'n ddiddorol nodi mai'r Blaid Werdd yw fwyaf Euro-sceptig o garfannau'r chwith ac mae hi ar gynnydd. Teg yw dweud hefyd nad yw pobol Llafur a Phlaid Cymru mor frwdfrydig a buon nhw ynghylch yr holl fusnes. Pwy nawr fyddai'n cefnogi mabwysiadu'r Euro ym Mhrydain?

Mae'n bosib y bydd agwedd y Chwith yn newid felly. Y cwestiwn wedyn yw - a fyddai'r Dde yn symud i'r cyfeiriad arall?