Angen newid enwau byrddau iechyd 'i ddenu meddygon'

Meddyg
Image caption Mae cryn gamddealltwriaeth am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ôl yr Athro Gallen

Fe ddylai byrddau iechyd Cymru newid eu henwau i geisio mynd i'r afael â phrinder meddygon iau, yn ôl y dyn sy'n gyfrifol am hyfforddi meddygon.

Mae dros 400 o swyddi meddygon iau yng Nghymru yn wag, ac mae'r prinder amlyca' yn y gogledd a'r gorllewin.

Mae'r Athro Derek Gallen, Pennaeth Deoniaeth Cymru hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru fod angen i'r gwasanaeth iechyd gynnig gwell profiadau er mwyn cystadlu â llefydd poblogaidd fel Llundain.

Mae'n dadlau bod angen mynd ymhellach na'r cynlluniau i ganoli rhai gwasanaethau arbenigol mewn llai o ysbytai.

Straen ar wasanaethau

Mae diffyg meddygon yn gallu rhoi straen ar wasanaethau ac mae llenwi'r bylchau a staff dros dro yn gostus.

Ar ôl graddio mae nifer o feddygon iau yn penderfynu mynd adre neu yn troi tua Llundain.

Er mwyn cystadlu mae'r Athro Gallen yn dadlau fod angen i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddangos bod hyfforddiant proffesiynol sy'n cael ei gynnig yma yn well.

Dywedodd hefyd bod rhai yn gyndyn i ddod i Gymru am nad ydyn nhw'n deall ystyr enwau fel Betsi Cadwaladr a Hywel Dda - ac eraill yn meddwl bod yn rhaid iddyn nhw allu siarad Cymraeg i weithio yma.

Image caption Hoffai Derek gallen weld newid i enwau'r byrddau iechyd i geisio denu mwy o feddygon

Dywedodd: "Mae 'na syniad nad ydyn nhw'n deall y ddaearyddiaeth, y bydd 'na deithiau hir rhwng ymddiriedolaethau ac y bydd rhaid iddyn nhw siarad Cymraeg.

"Pan rydych chi'n gwneud cais am swyddi yna byddai rhaid i chi weithio'n eithaf caled i ddarganfod yn lle y mae o yng Nghymru, a beth sy'n agos, felly mae hynny yn broblem.

"Byddai'n dda i geisio [newid yr enw] i weld os yw'n gwneud gwahaniaeth."

Rhy wasgaredig?

Yn ogystal â hynny, mae pryder os yw meddygon iau wedi eu gwasgaru mewn gormod o ysbytai - maen nhw'n debygol o fod yn rhy brysur yn edrych ar ôl cleifion i gael digon o amser i astudio.

Mae'r Athro Gallen yn awgrymu bod canlyniadau arholiadau gwael yng Nghymru ymhlith y rhai sy'n gweithio ym maes gofal plant yn awgrymu fod angen canoli rhai meysydd arbenigol ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n buddsoddi £350m mewn cefnogi dros 15,000 o fyfyrwyr sy'n astudio ystod eang o gyrsiau iechyd.

Dywedodd llefarydd: "Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau'r GIG ac eraill fel y Ddeoniaeth i barhau i recriwtio a chadw staff."