Safleoedd glanio hofrenyddion 24 awr i feddygon awyr

Ambiwlans awyr Image copyright Simon Vicary
Image caption Y nod yw cynyddu nifer y safleoedd glanio 24 awr

Mae safleoedd glanio hofrenyddion i gael eu gwella ledled Cymru fel eu bod ar gael ddydd a nos i baratoi ar gyfer lansio gwasanaeth 'meddygon awyr' newydd y wlad - EMRTS Cymru - ym mis Ebrill.

Dim ond mewn tri o ysbytai Cymru ar hyn o bryd mae modd glanio hofrenyddion ddydd a nos - sef Ysbyty Gwynedd, Bangor, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan , ac Ysbyty Treforys ger Abertawe.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething, bydd y buddsoddiad o £180,000 sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun yn golygu y bydd modd glanio hofrenyddion gyda'r nos ar safleoedd lle mae modd glanio yn y dydd ar hyn o bryd.

Bydd y cynllun yn dibynnu ar dimau gwirfoddol gwledig neu dimau ymateb ysbytai i ddefnyddio goleuadau dros dro a hosanau gwynt pan fyddant yn gwybod bod hofrennydd ar ei ffordd.

Bydd y safloedd canlynol yn cael eu datglybu i safloedd dydd a nos.

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth - caeau chwarae Ysgol Penglais, Waunfawr, Aberystwyth;

Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd - glanfa bresennol yr ysbyty/Maes Awyr Hwlffordd;

Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - glanfa bresennol oddi ar y safle;

Ysbyty Singleton, Abertawe - cae y tu ôl i Orsaf Dân Singleton;

Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd - glanfa bresennol oddi ar y safle;

Ysbyty Nevill Hall, y Fenni - glanfa bresennol oddi ar y safle;

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant - glanfa bresennol oddi ar y safle;

Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful - glanfa bresennol yr ysbyty;

Ysbyty Maelor Wrecsam - angen glanfa newydd i hofrenyddion lanio gyda'r nos;

Safle yn Aberhonddu ar gyfer Powys - Ysgol Frwydro'r Troedfilwyr, cyfleuster Dering Lines y Weinyddiaeth Amddiffyn, Aberhonddu.

Image caption Mae Ambiwlans Cymru yn gweithredu o dri lleoliad, Abertawe, Y Trallwng a Chaernarfon

Mae 27 o safleoedd eraill yn cael eu harchwilio ar draws Cymru fel mannau ymgasglu ar gyfer hofrenyddion a cherbydau ar y ddaear.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd gwella'r safleoedd glanio hofrenyddion yn helpu EMRTS Cymru i ymgymryd â gweithgareddau clinigol allweddol, gan gynnwys:

  • Gofal critigol cyn ysbyty drwy ddefnyddio safleoedd glanio hofrenyddion fel mannau ymgasglu ar gyfer criwiau ambiwlans os na all hofrennydd lanio yn agos at le mae'r claf oherwydd daearyddiaeth, tywyllwch neu dywydd gwael;
  • Trosglwyddo oedolion lle mae perygl i fywyd, perygl o golli coes neu fraich a lle mae amser yn brin o'r ysbyty gwreiddiol (gan gynnwys adrannau brys ac unedau mân anafiadau);
  • Cefnogi unedau annibynnol dan arweiniad bydwragedd drwy sefydlogi menywod a babanod â phroblemau sy'n peryglu bywyd a'u trosglwyddo i uned dan arweiniad ymgynghorydd;
  • Trosglwyddo timau newydd-enedigol i achosion lle mae amser yn brin.

Dywedodd Mr Gething: "Ein nod yw bod y cleifion mwyaf sâl ac sydd â'r anafiadau mwyaf difrifol yn cael eu trin gan y clinigwyr gorau.

"Yn y dyfodol, bydd y gwasanaethau tra arbenigol hyn yn cael eu darparu mewn llai o ysbytai, ond gyda chefnogaeth rhwydwaith o ysbytai lleol, yn cynnig gofal brys lleol i bobl.

"Bydd yn golygu bod cleifion - yn enwedig y rheini yn y rhannau mwy diarffordd a gwledig o'r wlad - yn cael eu trin gan ymgynghorwyr medrus ym maes gofal brys neu ddwys, ac sy'n gallu cynnig gofal critigol arbenigol sy'n achub eu bywydau."

Image copyright Wales Air Ambulance
Image caption Mae'r criwiau wedi ymateb i dros 18,000 o alwadau ers i'r gwasanaeth gael ei lansio yn 2001