Euog o osod pornograffi ar iPad siop

Ceri Morgan Image copyright Wales news service
Image caption Ceri Morgan

Mae cwsmer Tesco wedi cael gorchymyn cymunedol am 12 mis ar ôl newid delwedd ar iPad yn y siop gan osod llun pornograffig arno.

Clywodd Ynadon Abertawe fod Ceri Morgan, 40, wedi lwytho'r llun i'r dabled a'i osod o fel llun cefndir.

Roedd wedi ceisio dileu'r ddelwedd ond hynny'n aflwyddiannus.

Roedd Morgan yn archfarchnad Tesco yn Fforest-fach gyda'i fab pan ddigwyddodd y drosedd.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o achosi delwedd anweddus i gael ei harddangos.

Cafodd ei ddal gan staff diogelwch oedd yn gwylio camerâu cylch cyfyng.

Clywodd yr ynadon na chafodd y llun ei weld gan gwsmeriaid eraill, dim ond staff Tesco yn Hydref 2014.

Dywedodd Alex Scott, ar ran y diffynnydd: "Jôc oedd y bwriad, doedd yna ddim cymhelliad rhywiol. Roedd yn benderfyniad ffôl, ond yn ddigwyddiad ynysig."

Fe fydd yn rhaid i Morgan wneud 100 awr o waith di-dâl a chafod gorchymyn i dalu costau o £85, a ffi dioddefwr o £60.