Addysg: Rhybudd y Democratiaid Rhyddfrydol am doriadau

Dosbarth Image copyright PA

Fe allai cynllun y Ceidwadwyr ar gyfer gwariant ar addysg yn Lloegr olygu mwy o doriadau i Lywodraeth Cymru, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r Ceidwadwyr wedi awgrymu y byddant yn amddiffyn y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn Lloegr ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Ond dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y gallai gwariant mewn rhannau eraill o'r maes addysg fod dan fygythiad o dan lywodraeth Geidwadol.

Byddai hyn, meddai'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn cael effaith ar yr arian sydd ar gael i Gymru.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod honiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwbl ddi-sail.

Yn y cyfamser, mae Llafur wedi amddiffyn ei record ar addysg yng Nghymru, a hynny yn dilyn beirniadaeth gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.

Amddiffyn gwariant

Ddydd Sul, roedd yn ymddangos fod Nicky Morgan, Ysgrifennydd Addysg y Ceidwadwyr, yn awgrymu y byddai ei phlaid yn amddiffyn cyllidebau ysgolion ar gyfer disgyblion rhwng pump ac 16.

Mae Nick Clegg wedi dweud y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ehangu hynny i gynnwys plant rhwng dwy a 19, a byddai hynny'n costio £10 biliwn yn ychwanegol bob blwyddyn.

Byddai penderfyniadau ar faint sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr yn cael effaith ar Gymru, oherwydd Fformiwla Barnett.

Byddai llai o wariant ar addysg yn Lloegr yn golygu y byddai canran sy'n cael ei wario yng Nghymru hefyd yn gostwng.

Dehongliad Arwyn Jones, Gohebydd Addysg BBC Cymru.

Dyma'r tro cyntaf ers datganoli i ni weld dechrau ymgyrchu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn y DU gyda gwahanol bleidiau yn Llundain a Chaerdydd yn ceisio amddiffyn eu record ar addysg.

Os ydych yn edrych ar ganlyniadau TGAU dros y cyfnod hwnnw, mae'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn ehangu, gyda disgyblion Lloegr yn dod allan ar y brig.

Ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Cymru wedi bod yn dal i fyny.

Wrth edrych ar y gyfran y disgyblion sy'n ennill 5 gradd TGAU dda, dim ond o 1.4% y mae Cymru bellach tu ôl i Loegr.

Mae Stephen Crabb yn dweud y byddai Ed Milliband yn "troi'r cloc yn ôl" ar addysg.

Ond, fe ddaeth yr holl newidiadau polisi addysg rhwng Cymru a Lloegr mewn cyfnod pan oedd Llafur mewn grym ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan hefyd.

Nid oes gwahaniaeth rhwng Llafur na'r Ceidwadwyr, fel y cyfryw, ond yn hytrach, gwahaniaeth rhwng Llafur yng Nghymru a phwy bynnag sy'n rheoli addysg yn Lloegr.

Dywedodd Jenny Willott, AS Democratiaid Rhyddfrydol Canol Caerdydd: "Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig blaid sy'n dweud ein bod am amddiffyn gwariant ar gyfer y cyfnod meithrin i'r coleg.

"Oherwydd rydym yn credu mai'r ffordd i adeiladu economi cryf a sicrhau cymdeithas fwy teg yw drwy roi'r cychwyn gorau posib i bob plentyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru: "Mae hyn yn ymdrech enbyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, plaid sydd wedi gweld ei pherfformiad gwaethaf erioed mewn arolygon barn dros y penwythnos.

'Lle i boeni'

"Yn yr wythnosau nesaf fe fydd y Ceidwadwyr yn datgelu ein cynlluniau ar gyfer Lloegr yn ein maniffesto.

"O bosib nad yw Jenny Willott yn sylweddoli, ond mae addysg yn faes sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru.

"Mae Ceidwadwyr Cymru am weld y system yng Nghymru yn canolbwyntio ar ragoriaeth, ac rydym am leihau biwrocratiaeth gan sicrhau fod mwy o arian ar gyfer y rheng flaen, gydag athrawon a rheini yn penderfynu beth sydd orau ar gyfer disgyblion."

Hefyd ddydd Sul, fe wnaeth Stephen Crabb Ysgrifennydd Cymru, ddweud y byddai yna le i rieni yn Lloegr boeni pe bai Ed Miliband yn mabwysiadu polisïau addysg Llywodraeth Cymru.

Mae'r ffrae am addysg yn dilyn misoedd o ddadlau rhwng y Torïaid a Llafur Cymru am y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog addysg Cymru fod cynlluniau'r Ceidwadwyr ar gyfer ysgolion Lloegr yn ymateb "hynod o wan i'r her sy'n wynebu'r economi. "