Southampton 0-1 Abertawe

Jonjo Shelvey Image copyright Getty Images
Image caption Jonjo Shelvey

Fe wnaeth chwip o ergyd o 25 llath gan Jonjo Shelvey sicrhau buddugoliaeth i Abertawe yn Southampton.

Roedd y chwaraewr canol cae eisoes wedi taro'r postyn cyn i'w ergyd grymus yn y 83 munud guro Fraser Forster.

Southampton oedd yn rheoli'r chwarae am y rhan fwyaf o'r gêm, ond heb greu llawer o gyfleoedd.

Daeth eu rhwystredigaeth ddiwedd y gêm, gyda Ryan Bertrand yn cael carden coch am drosedd ar Modou Barrow.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn symud uwchben Stoke i'r nawfed safle, gyda 33 pwynt.

Dywedodd rheolwr Abertawe: "Fe allai'r tîm fod wedi chwarae yn well yn yr hanner cyntaf. Ond yn ystod yr egwyl fe wnes i ddweud pe bai ni'n para am chwarter awr arall yna bydda nhw'n teimlo yn rhwystredig, ac fe ddaw cyfle.

"Roedd y tîm yn llawn haeddu tri phwynt, roedd gol Jonjo yn haeddu ennill unrhyw gêm."