Canlyniadau Cwpan LV

Fe wnaeth cais y clo Miles Normandale' yn y munudau olaf sicrhau buddugoliaeth i'r Gleision 45-42 yn erbyn Wasps yng nghwpan LV.

Golygai'r canlyniad fod y Gleision ar frig grŵp 2.

Ond colli bu hanes y Dreigiau 37-32 gartref yn erbyn Caerwysg.

Er gwaetha dau bwynt bonws mae'r Dreigiau yn aros ar waelod grŵp 1.