Arddangosfa yn edrych yn ôl ar waith Airbus ym Mrychdyn

Awyren ar strydoedd Caer Image copyright Airbus
Image caption Awyren yn cael ei hebrwng drwy strydoedd Caer

Mae arddangosfa o luniau wedi agor i gofnodi 75 mlynedd o adeiladu awyrennau Airbus ym Mrychdyn.

Roedd ffatri Brychdyn yn gyfrifol am adeiladu nifer o awyrennau nodedig, yn cynnwys awyrennau Wellington yn ystod yr ail ryfel byd.

Yn 2011 fe fuddsoddodd Airbus £400m ar y safle er mwyn adeiladu adennydd carbon-ffeibr ar gyfer awyrennau masnachol. Mae'r safle yn cyflogi 6,000 o bobl.

Bydd yr arddangosfa deithiol yn agor yn Llyfrgell Blacon yng Nghaer ddydd Llun.

Image copyright Airbus
Image caption Awyren Beluga yn agor ei drws er mwyn cludo adain o Frychdyn
Image copyright Airbus
Image caption Roedd ffatri Airbus yn gyfrifol am gynhyrchu awyrennau Wellington a Comet