Draw yn ynysoedd y de

Mae 'na beryglon mewn darllen gormod o etholiadau dramor. Ar y llaw arall plaid ffôl iawn fyddai'n anwybyddu rhybudd o bell - yn enwedig pan ddaw'r rhybudd hwnnw o wlad sy'n rhannu llawer o'n traddodiadau gwleidyddol.

Nid fi wy'r unig berson yn y byd gwleidyddol fan hyn sy'n cadw llygad ar wleidyddiaeth Awstralia. Mae 'na fynd a dod cyson rhwng strategwyr gwleidyddol y ddwy wlad ac mae cysylltiadau'r Ceidwadwyr a Llafur a'u chwaer bleidiau yno yn rhai agos a buddiol.

Roedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol chwaer blaid yn Awstralia ar un adeg. Roeddwn i'n nabod dwy o'i harweinwyr yn bur dda ac fe arweiniodd y cwympo mas rhyngddynt at dranc y blaid honno. Fe fyddai'r stori fach yna'n bost bach difyr ond nid dyna yw tesun y bregeth heddiw.

Dros y Sul cynhaliwyd etholiad hynod ddifyr yn nhalaith Queensland. Doedd neb yn disgwyl i'r canlyniad fod yn un agos, i ddechrau o leiaf. Wedi'r cyfan llai na thair blynedd yn ôl roedd Llafur wedi dioddef ei chrasfa waethaf erioed yn y dalaith. Aeth y blaid o lywodraethu i fod yn wrthblaid o saith. Enillodd y blaid geidwadol, yr LNP, 78 o'r 87 sedd yn y senedd daleithiol.

Mae'n anodd iawn i unrhyw blaid mewn unrhyw wlad ddod yn ôl o grasfa o'r fath mewn un tymor etholiadol - yn enwedig mewn gwlad a thalaith sydd â chylchoedd etholiadol tair blynedd o hyd.

Ar ben hynny yn ôl yn 2012 roedd bron pob un o ddarpar arweinwyr posib Llafur wedi colli ei seddi. Fe syrthiodd yr arweinyddiaeth felly i garffed gwleidydd digon di-nod ac anghyfarwydd i'r etholwyr. Mae hi bron yn sicr mai'r gwleidydd hwnnw, Annastascia Palaszczuk, fydd yn arwain llywodraeth nesaf Queensland.

Beth ddigwyddodd felly? Wel, fe fabwysiadodd Llafur dacteg gyfarwydd i unrhyw blaid sy'n brin o arian, syniadau a chefnogaeth yn y wasg - cadw eu pennau i lawr a gobeithio y byddai eu gwrthwynebwyr yn gwneud smonach o bethau. Llywodraethau sy'n colli etholiadau, wedi'r cyfan, nid gwrthbleidiau sy'n eu hennill. Canolbwyntiwyd ar waith caib a rhaw yn yr etholaethau - syniad digon tebyg i "four million conversations" Ed Miliband neu "miliwn o sgyrsiau" Plaid Cymru.

Yn y cyfamser fe aeth llywodraeth yr LNP ati a dilyn strategaeth ddigon cyfarwydd i lywodraethau asgell dde. Gan bwysleisio'r angen i ddelio a'r ddyled gyhoeddus fe dorrwyd yn ôl ar wariant a chyflwynwyd cyfred o newid radicalaidd. Roedd y rheiny yn amrywio o'r sbeitlyd megis talu Llafur allan o'i swyddfeydd yn y Senedd-Dy i rhai gwleidyddol wenwynig, preifateiddio asedau craidd, gollwng gwastraff yn agos at y Great Barrier Reef a'u tebyg.

Mae p'un ai oedd maint y ddyled yn rheswm neu'n esgus dros gyflwyno polisïau amhoblogaidd yn fater o farn. Cred yr LNP oedd y byddai maint ei mwyafrif ynghyd a'r mantra ei bod yn "strong government" yn gwireddu "strong plan" trwy wneud "strong choices" yn ddigon i ddal gafael ar rym. Ddydd Sadwrn cafwyd yr ateb.

Yn ôl yn ein parthau ni mae'r Ceidwadwyr yn seilio'u hapêl etholiadol ar eu "long term economic plan" gan gredu y bydd hwnnw ynghyd â gwendid cymharol yr wrthblaid yn ddigon i gario'r dydd.

Dyna pam y bydd canlyniad Queensland yn chwarae ar feddyliau rhai o'u strategwyr. Mae'n awgrymu nad yw beio'r ddyled yn cyfiawnhau popeth. Os ydy'r cyhoedd yn barnu bod polisi yn annheg neu'n afresymol fe fydd 'na bris i'w dalu - dyled neu beidio.

Fel un o Awstralia fe ddylai Lynton Crosby, prif strategydd y Torïaid, ddeall hynny. Fe fydd Ceidwadwyr yn gobeithio ei fod e!