Prifysgol Aberystwyth: £2.7m i wella ceirch

Ceirch Image copyright Getty Images
Image caption Bydd technoleg geneteg yn cael ei defnyddio i hybu twf cnydau o geirch.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid o £2.76m ar gyfer ymchwil i sicrhau bod ceirch yn fwy maethlon.

Fe fydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella cynaliadwyedd economaidd un o brif fwydydd y byd.

Yn ôl y brifysgol, mae buddsoddiadau mawr mewn cnydau amgen yn heriol.

Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Gyngor Y Gwyddorau Biolegol ac Ymchwil Biotechnoleg.

Bydd y prosiect pum mlynedd yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd cynaliadwy yn y DU.

Gan ddefnyddio offer ac adnoddau genetig, mae'r tîm yn gobeithio gwella nodweddion fydd yn cynyddu cynhyrchu ceirch ac yn gwella ansawdd cynnyrch sy'n cynnwys grawn.

Straeon perthnasol