Difrod i fferi yn dilyn gwrthdrawiad

Stena Nordica Image copyright Eric Jones/Geograph
Image caption Mae fferi Stena Line fel arfer yn rhedeg rhwng Caergybi a Dulyn.

Mae un o longau Stena Line wedi dioddef difrod yn dilyn gwrthdrawiad gyda llong arall.

Roedd criw a theithwyr ar fwrdd y llong Stena Nordica pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn harbwr Caergybi ar Ynys Môn ddydd Sul.

Dywedodd Stena nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu, a bod y llong yn cael ei thrwsio ar hyn o bryd, ac maen nhw'n gobeithio y bydd hi'n ailddechrau hwylio ddydd Iau.

Mae'r Gangen Damweiniau Morol yn casglu gwybodaeth er mwyn penderfynu a fydd rhaid cynnal ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad.