UEFA 2017: Cymru dan-21 yng Ngrŵp 5

UEFA 2017 Image copyright UEFA

Mae enwau gwledydd fydd yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau dan-21 UEFA 2017wedi cael eu tynnu allan o het yn Nyon. Y Swistir.

Fe fydd Cymru yn chwarae yng Ngrŵp 5 gyda Lwcsembwrg, Bwlgaria, Armenia, Romania a Denmarc.

Mae naw grŵp yn y gystadleuaeth, ac fe fydd enillwyr y grwpiau yn cymhwyso yn awtomatig ar gyfer y rowndiau terfynol yng Ngwlad Pwyl yn 2017.

Bydd timau sy'n gorffen yn ail yn eu grŵp gyda'r record orau yn erbyn y tri thîm o danyn nhw yn mynd i gemau ail gyfle, gyda 12 tîm felly'n cymhwyso i'r rowndiau terfynol.

Y Grwpiau

Grŵp 1: Gweriniaeth Siec, Gwlad Belg, Montenegro, Moldofa, Latfia, Melita;

Grŵp 2: Yr Eidal , Serbia , Slofenia, Gweriniaeth Iwerddon, Lithwania, Andorra;

Grŵp 3: Ffrainc, yr Wcráin, Yr Alban, Gwlad yr Iâ, Macedonia, Gogledd Iwerddon;

Grŵp 4: Portiwgal, Israel, Groeg, Hwngari, Albania, Liechtenstein;

Grŵp 5: Denmarc, Romania, Armenia, Cymru, Bwlgaria, Lwcsembwrg;

Grŵp 6: Sbaen, Sweden, Croatia, Georgia, Estonia, San Marino;

Grŵp 7: Yr Almaen, Rwsia, Awstria, Y Ffindir, Azerbaijan, Ynysoedd Ffaro;

Grŵp 8: Yr Iseldiroedd, Slofacia, Twrci, Belarus, Cyprus;

Grŵp 9: Lloegr, y Swistir, Norwy, Bosnia a Herzegovina, Kazakhstan.