Tynnu dyn o Afon Taf yng Nghaerdydd

Afon Taf Image copyright David Dixon/Geograph

Mae dyn wedi'i dynnu o Afon Taf yng nghanol dinas Caerdydd wedi iddo fynd i drafferthion wrth geisio dychwelyd i'r lan.

Cafodd yr heddlu, ambiwlans a gwylwyr y glannau eu galw i'r afon ger pont Ffordd y Ffair, wrth Stadiwm y Mileniwm am 18:20 ddydd Mawrth.

Mi wnaeth gwylwyr y glannau dynnu'r dyn o'r dŵr a chafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn ambiwlans.

Dywedodd gwylwyr y glannau ei fod yn "ymwybodol, ond yn oer iawn".